Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn ymwybodol o dwyll
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Byddwch yn ymwybodol o dwyll
Pobl a lleY cyngor

Byddwch yn ymwybodol o dwyll

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 13, 2019 10:00 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Byddwch yn ymwybodol o dwyll
RHANNU

Mae ymgyrch genedlaethol ar y gweill yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o dwyll #stopiosgiâm

Efallai y credwch chi ei bod yn hawdd adnabod sgamiau, ond fe synnech chi pa mor hawdd yw cael eich twyllo i rannu manylion personol megis eich manylion banc, neu gael eich twyllo i wario’ch arian parod drwy dalu am waith neu nwyddau nad ydych chi mo’u hangen neu weithiau, nad ydyn nhw hyd yn oed yn bodoli. 🙁

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Fe fyddwn ni’n cymryd rhan yn yr ymgyrch a gobeithio y bydd rhywfaint o’r wybodaeth y byddwch chi’n dod ar ei thraws o fudd i chi osgoi cael eich twyllo.  Mae yna ddigon o bobl o gwmpas sy’n rhoi cynnig ar y sgamiau hyn, ac yn anffodus, mae rhai ohonyn nhw’n llwyddo, gan arwain at golled ariannol, tristwch a gofid.

Bu i’r swyddfa Archwilio Genedlaethol amcangyfrif yn ddiweddar fod pobl yn colli £10 biliwn drwy sgamiau bob blwyddyn! A chanfu adroddiad diweddar gan Cyngor ar Bopeth fod bron i dri chwarter y bobl hynny a gymerodd ran mewn arolwg wedi cael eu targedu gan sgam yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Gall unrhyw un gael ei dargedu ac mae angen i bawb ohonon ni fod yn ymwybodol o dwyll er mwyn ymladd yn ôl #stopiosgiâm

Prif neges yr ymgyrch yw “stopiwch, hysbyswch, siaradwch” os ydych chi’n meddwl eich bod yn cael eich targedu gan sgam ac yn gwybod beth i’w wneud.

Stopiwch…

Cofiwch y gallwch chi stopio a cheisio cyngor gan Linell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 03454 04 05 05.

Hysbyswch…

Hysbyswch Action Fraud am sgamiau drwy ffonio 0300 123 2040 neu gysylltu â @actionfraudUK ar Twitter.

Siaradwch…

Siaradwch â’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion am sgamiau y maen nhw wedi dod ar eu traws.

Cofiwch y gall bod yn ymwybodol o dwyll arbed llawer o amser, arian, gofid, tristwch a thrafferth i chi, eich teulu a’ch ffrindiau. 🙂 #stopiosgiâm

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Tywydd 12.09.19 17.45 Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Tywydd 12.09.19 17.45
Erthygl nesaf Peidiwch â methu’r cyfle i gadw'n Heini ar Gyfer yr Haf Peidiwch â methu’r cyfle i gadw’n Heini ar Gyfer yr Haf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English