Mae nifer o bobl yn gorfwyta dros gyfnod y Nadolig, gall maint eich cyfran fod yn fwy na’r arfer ac o ganlyniad bydd yn sicr bydd ychydig o wastraff bwyd. Rydym yn gofyn i chi feddwl ddwywaith cyn lluchio’r gwastraff hwn i’r bin sbwriel arferol.
Ffordd dda o atal gwastraff bwyd yw coginio eich gweddillion… meddyliwch am risoto, cyri, cawl a lobsgóws.
Edrych am ysbrydoliaeth? Mae gan wefan Hoffi Bwyd Casau Gwastraff syniadau ryseitiau gwych!
Ar y diwrnod mawr, gall y croen o’ch ysgewyll, tatws, pannas, moron ac unrhyw esgyrn twrci fynd i mewn i’ch cadi gwastraff bwyd. Gall unrhyw weddillion o’r plât gael eu rhoi yn y cadi hefyd.
Oeddech chi’n gwybod y gallwch roi unrhyw fwyd amrwd, bwyd wedi dyddio a bwyd wedi’i goginio yn eich cadi gwastraff bwyd? Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw becyn yn mynd i mewn i’r cadi oherwydd mae’n effeithio ar ansawdd y compost.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Mae’n syml!
Rhowch eich cadi allan ar ymyl palmant bob wythnos, ar yr un adeg â’r cynwysyddion ailgylchu eraill.
A’r peth gorau… mae’r holl wastraff bwyd yn newid i gompost, a ellir ei gasglu am ddim gan breswylwyr Wrecsam wrth ddefnyddio un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Aelwydydd ym Mryn Lane, The Lodge neu Blas Madoc!
Llenwch ein holiadur
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan
COFIWCH EICH BINIAU