Fel rhiant, mae’n siŵr y byddwch yn pryderu pan fydd eich plant yn symud o’u hysgol gynradd i ysgol uwchradd.
Ond, mae digonedd o gymorth ar gael os oes gan eich mab neu eich merch anawsterau â rhywbeth neu angen siarad â rhywun.
Mae Tîm Cwnsela ‘Outside In’ yn cefnogi plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoedd ledled Wrecsam. Mae’r tîm yn gofalu am wyth ysgol gynradd, yr holl ysgolion uwchradd ac yn gweithredu o’r Siop Wybodaeth.
Mae’r tîm yn cynnwys amrywiaeth o gwnselwyr profiadol ac yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol gydag amser a lle i drafod unrhyw faterion sy’n eu poeni.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
“Trafod materion a chanfod dulliau o ymdopi”
Dywedodd Sharon McIntyre, un o gwnselwyr ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Rwy’n ymweld â nifer o’r ysgolion uwchradd yn Wrecsam ac yn siarad â phobl ifanc sydd â phryderon am bethau sy’n digwydd yn eu bywydau ar hyn o bryd. Gall hynny fod yn bethau sy’n digwydd yn yr ysgol neu yn y cartref.
“Gallant eistedd gyda chwnselydd, trafod materion sydd ganddynt a chanfod dulliau o ymdopi. Mae ‘Outside In’ yn ceisio nodi’r hyn y gellir ei gyflawni a chymryd amser i archwilio pethau a darganfod beth sy’n effeithio arnynt.”
Sut i drefnu apwyntiad?
Gofynnwch i athro/athrawes, cyfaill neu berthynas i gysylltu â’r tîm ar eich rhan neu defnyddiwch y wybodaeth gyswllt ganlynol:
Rhif Ffôn: Siop Wybodaeth 01978 295600
Testun: Ffôn Symudol Cwnsela ‘Outside In’: 07800689039
E-bost: outside_in@wrexham.gov.uk
Mae holl gwnselwyr Outside In yn gymwys ac yn brofiadol i weithio gyda phobl ifanc. Mae’r gwasanaeth a’r cwnselwyr yn dilyn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (2008) a chanllawiau’r Gymdeithas Brydeinig Cwnsela a Seicotherapi.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION