Bydd un o uchafbwyntiau’r Nadolig yn Wrecsam, y Farchnad Nadolig Fictoraidd, yn dod yn ôl i’n llonni eto eleni.
Bydd y farchnad yn dychwelyd ddydd Iau 9 Rhagfyr rhwng hanner dydd ac 8pm
Mae’r digwyddiad undydd wedi tyfu o’r achlysur bach cyntaf a gynhaliwyd ym mynwent Eglwys St Giles gan ymestyn i ganol y dref a Sgwâr y Frenhines.
Rydym yn gweithio’n ddiwyd y tu ôl i’r llenni er mwyn sicrhau y bydd y digwyddiad yn ddiogel ac yr un mor llwyddiannus â marchnadoedd y gorffennol.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’r digwyddiad hwn yn denu tyrfaoedd i ganol y dref ac felly mae’n braf ei weld yn dychwelyd.”
Os ydych chi’n berchen ar fusnes ac yn dymuno mynegi diddordeb mewn cael stondin yn y digwyddiad, cysylltwch â events@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN