Yn wir, mae yna lawer i’w gofio mewn perthynas ag ailgylchu. Os ydych chi o bryd i’w gilydd yn edrych ar eitemau ac yn ystyried a ellir eu hailgylchu, nid chi yw’r unig un.
Mae ein tîm strategaeth gwastraff wedi derbyn nifer o gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd yn ddiweddar yn gofyn a ellir ailgylchu deunydd penodol neu beidio. Rydym wedi gofyn i’r tîm rannu’r cwestiynau hyn â ni, yn ogystal â’r atebion wrth gwrs!
Dyma’r cwestiynau yr ydych chi wedi eu gofyn i’n tîm ailgylchu…
1. Ydw i’n gallu ailgylchu ffoil?
Yr ateb yw YDYCH, ond mae’n hollbwysig bod y ffoil yn LÂN. Os nad yw’r ffoil yn lân, bydd yn halogi deunyddiau eraill yn eich bocs ailgylchu. Felly, os ydych chi wedi defnyddio ffoil sy’n lân, rhowch y ffoil yn eich bocs gwyrdd/ bocs canol y troli, ynghyd â’ch plastigion a’ch caniau cymysg, ac fe wnawn eu hailgylchu.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
2. Ydw i’n gallu ailgylchu poteli diaroglyddion rholio gwydr?
Mae’r cwestiwn hwn wedi codi yn y gorffennol, ac rydym yn falch o ddweud YDYCH, rydych chi yn gallu ailgylchu poteli rholio gwydr, felly rhowch nhw yn y bocs ailgylchu ynghyd â gweddill eich gwydr. Gellir ailgylchu’r caead plastig ar y poteli hyn hefyd, felly tynnwch y caead a’i roi yn y bocs ailgylchu ynghyd â’ch plastigion eraill.
3. Beth ddylwn ei wneud gyda chaeadau tun metel?
Unwaith y bydd y tun metel yn wag ag yn lân, rhywbeth y gallwch ei wneud i’n helpu ydi rhoi caeadau tun metel yn ôl y tu mewn i’r tun pan fyddwch chi’n eu hailgylchu. Mae hyn yn helpu oherwydd pan fo’r metel yn cael ei wasgu yn y ganolfan ailgylchu, yn aml mae’r caeadau sydd heb eu rhoi nôl yn y tun yn llithro allan o’r swp oherwydd eu maint. Felly rhowch gaeadau’r tun yn ôl y tuniau os gwelwch yn dda 🙂
4. Ydw i’n gallu ailgylchu amlenni gyda ffenestri?
Mae hyn yn achosi dryswch i nifer o bobl.. ond YDYCH, rydych chi’n gallu ailgylchu’r rhain! Rhowch yr amlenni â ffenestri yn y bocs ailgylchu ynghyd â gweddill eich papur a chardbord.
5. Ydw i’n gallu ailgylchu codennau coffi?
Yn anffodus, NAC YDYCH, ni allwn ailgylchu codennau coffi. Os oes genych chi godennau coffi, beth wirio â’r cyflenwr i weld a ellir eu dychwelyd i gael eu hailgylchu?
6. A oes wir angen i ni olchi eitemau cyn eu golchi?
Yr ateb yw OES, heb os! Mae’n hollbwysig eich bod yn golchi unrhyw wastraff bwyd ar ddeunyddiau a ailgylchir oherwydd mae hynny’n golygu bod ansawdd y deunyddiau a gaiff eu hailgylchu i greu cynnyrch newydd yn llawer gwell. Pan fyddwch wedi gorffen golchi eich llestri, cyn tynnu’r plwg, rhowch eich deunyddiau plastig yn y peiriant golchi llestri am ddau funud i’w rinsio. Nid yw hyn yn cymryd llawer o amser, a gan amlaf, mae’n ddigon i gael gwared ag unrhyw wastraff.
7. A ddylwn i dynnu caeadau plastig/metel oddi ar jariau gwydr?
Os gwelwch yn dda. Rhowch gaeadau plastig a metel yn eich bocs gwyrdd/ bocs canol y troli i’w hailgylchu, a rhowch y jar metel yn y bocs ynghyd â gweddill eich gwydr i’w hailgylchu.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD