Rydym yn gwybod am y lle perffaith i ddod o hyd i hyn, ac fe gewch y mantais ychwanegol o gefnogi elusen lleol pan fyddwch yn prynu.
Gallwch ddod o hyd i siop ailddefnyddio Hosbis Tŷ’r Eos yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane! Mae llawer o bobl yn ei hadnabod fel ogof Aladdin (er fod ogof Sion Corn yn fwy priodol ar hyn o bryd).
Wrth i’r Nadolig nesáu mae llawer o bethau yn y siop ailddefnyddio y gallech eu prynu i ledaenu hwyl yr ŵyl.
Os oes angen help arnoch i lenwi’ch hosanau Nadolig…
Bydd y siop ailddefnyddio yn siŵr o fedru’ch helpu. Os ydych yn ystyried prynu teledu, ewch draw i gael cipolwg… fel arfer mae llwyth o rai o feintiau amrywiol ar gael.
Ac os ydych yn ansicr ynglŷn â phrynu teledu wedi’i ddefnyddio, cofiwch bod pob eitem yn cael eu glanhau a’u bod yn cael profion diogelwch cyn iddyn nhw gael eu gwerthu ????
Ond os ydych yn chwilio am rywbeth ychydig yn llai, fel arfer mae detholiad o eitemau fel setiau rhodd, teganau, gemau cyfrifiadurol, gemau bwrdd ac addurniadau hyfryd ar gael i lenwi’ch hosanau Nadolig.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Ydych chi am wella’ch ffitrwydd yn 2023?
Adduned Blwyddyn Newydd poblogaidd yw cadw’n heini a lle da i ddechrau gwneud hyn bob amser yw beicio.
Oes angen beic arnoch chi? Dyma’r lle i chi!
Mae dewis helaeth iawn o feiciau ar gael yn y siop ailddefnyddio. O feiciau plant i feiciau oedolion, beth bynnag yr ydych yn chwilio amdano rydych yn siŵr o ddod o hyd iddo yn y siop ailddefnyddio ????
Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn hoffi cael beic yn anrheg Nadolig mewn gwirionedd. Mae pob beic yn cael eu storio y tu allan i’r siop felly gallwch gael cipolwg arnynt a’u gwirio cyn prynu felly dewch draw i weld.
Ail-roddwch eich anrhegion di-eisiau
Mae pawb wedi derbyn anrheg Nadolig di-eisiau rywbryd yn eu bywydau ????
Ond nid yw’r ffaith nad yw’r anrheg at eich dant chi yn golygu nad yw’n berffaith i rywun arall. Mae ail-anrhegu yn golygu rhoi’ch anrhegion di-eisiau i bobl eraill a byddai’r siop ailddefnyddio yn ddiolchgar iawn pe baech yn ystyried rhoi’r eitemau hyn iddyn nhw.
Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.
Cyfrannwch drwy gydol y flwyddyn
Gallwch gyfrannu i’r siop ailddefnyddio drwy gydol y flwyddyn, felly ym mis Ionawr, os nad ydych eisiau cadw eich coeden artiffisial neu addurniadau tan y flwyddyn ganlynol, bydd y siop yn hapus i’w cymryd nhw.
Bydd y siop yn cadw’r eitemau ac yn eu gwerthu nhw’r flwyddyn ganlynol. Byddent yn hapus i dderbyn cyfraniadau hyn yn oed tu allan i’r tymor.
Oriau agor
Mae’r siop ailddefnyddio ar agor yn ddyddiol rhwng 9am – 5pm, ond bydd yn cau ar gyfer y Nadolig ar ddydd Gwener, Rhagfyr 23. Ystyriwch hyn os ydych yn cynllunio galw heibio.
Yna bydd y siop yn ail-agor yn y flwyddyn newydd ar ddydd Mawrth, 3 Ionawr.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI