Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi erioed wedi ystyried gwirfoddoli? Gwyliwch stori ysbrydoledig Leigh…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ydych chi erioed wedi ystyried gwirfoddoli? Gwyliwch stori ysbrydoledig Leigh…
Busnes ac addysgFideoPobl a lleY cyngor

Ydych chi erioed wedi ystyried gwirfoddoli? Gwyliwch stori ysbrydoledig Leigh…

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 26, 2019 11:53 am
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

O wirfoddoli i ddod yn gymhorthydd llanw mewn oriel. Mae stori Leigh yn llawn ysbrydoliaeth, a gallai’r cyfleoedd hyn fod ar gael i chithau hefyd!

Fe wnaethom ni gyfarfod efo Leigh yn Nhŷ Pawb yr wythnos hon i sgwrsio am sut wnaeth gwirfoddoli yn yr hwb celf a marchnadoedd arwain ati hi’n cael ei swydd delfrydol fel cymhorthydd mewn oriel.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Ar ôl gwirfoddoli am tua blwyddyn, fe wnaeth Leigh gais am swydd Cymhorthydd Llanw mewn Oriel a bu’n llwyddiannus!

Erbyn hyn, mae hi’n gweithio yn Nhŷ Pawb yn ogystal ag astudio ar gyfer ei gradd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ystod ei hamser yn Nhŷ Pawb, mae Leigh wedi cael profiad o ddelio gyda gwaith celf, gan gynnwys darnau gan Damian Hurst. Mae hi hefyd wedi helpu gyda llawer o weithgareddau plant, sy’n wych gan y byddai hi’n hoffi gyrfa fel athrawes yn y dyfodol!

Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd Celf yn Nhŷ Pawb, “Mae gennym lawer o gyfleoedd i wirfoddolwyr yn Nhŷ Pawb. Mae Leigh yn enghraifft berffaith o’r cyfleoedd sydd ar gael wrth wirfoddoli efo ni. Mae hi’n bleser gweithio gyda hi ac mae hi mor frwdfrydig am ddysgu pethau newydd. Hoffwn annog unrhyw un a fyddai’n hoffi cael profiad mewn goruchwylio, cynorthwyo gyda gweithdai, cefnogi digwyddiadau a masnach celf i gysylltu â’r tîm a dod o hyd i ba gyfleoedd gwirfoddoli sydd gennym ar gael.

Fel gwirfoddolwr yn Nhŷ Pawb, gallech fod yn rhan o gynllun newydd, diwylliannol a chymunedol cyffrous yng nghanol tref Wrecsam. Dewch i gyfarfod eich ffrindiau gorau newydd, datblygu sgiliau ymarferol a chyfrannu at brosiect lleol sy’n llawn bwrlwm ac sydd â rhywbeth at ddant pawb. Mae oriau hyblyg ar gael yn ystod y dydd a chyda’r nos, saith diwrnod yr wythnos. Felly gallwn greu lleoliad sy’n gweddu i’r dim i chi.

Boed chi’n gallu gwirfoddoli am un diwrnod yr wythnos neu am awr yr wythnos, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych!

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn Nhŷ Pawb, cysylltwch â’r tîm.

Rhif Ffôn: 01978 292093

Facebook.com/typawb

Tŷ Pawb, Stryt y Farchnad, Wrecsam,

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol surgery to waterloo Eisiau deall rhagor am fyw gyda Dementia?
Erthygl nesaf Cymrwch ran yn y Cyfrif Glöynnod Byw Mawr Cymrwch ran yn y Cyfrif Glöynnod Byw Mawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English