Yn dilyn proses dendro, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio gyda darparwr Teleofal newydd o 1 Rhagfyr 2018. Mae Llesiant Delta wedi ennill y contract i ddarparu gwasanaeth monitro 24/7 o’r holl larymau argyfwng a’r gwasanaethau y tu allan i oriau ar gyfer ardal Wrecsam; mae hyn yn cynnwys offer Teleofal.
Mae’r cwmni Llesiant Delta wedi’i leoli yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, ac ar hyn o bryd mae’n cefnogi oddeutu 30,000 o bobl ar draws Gymru. Mae staff yn y sefydliad wedi bod yn monitro larymau Teleofal er dros 20 o flynyddoedd ac felly mae ganddynt brofiad helaeth o ymdrin â cheisiadau am gymorth. Mae pob aelod o staff yn gymwys i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn unol â Deddfwriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ac maent yn gallu cynnig gwasanaeth gwbl ddwyieithog i breswylwyr Wrecsam. Ni fydd unrhyw newid i’r lefelau gwasanaeth presennol a ddarperir.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y sefydliad, ewch i’r wefan www.llesiantdelta.org.uk
Dros yr wythnosau nesaf, bydd llythyrau yn cael eu hanfon at unigolion gyda phecynnau Teleofal yn Wrecsam, yn ogystal â galwad ddilynol gan ymgynghorydd lles Delta i drafod sut y byddant yn symud y larwm o Sanctuary 365 i Llesiant Delta. Mae rhai cysylltiadau eisoes wedi’u trosglwyddo, felly bydd dau ddarparwr Teleofal yn gweithio yn Wrecsam tan 1 Rhagfyr pan fydd pob dim wedi’i drosglwyddo. Bydd y gwasanaeth Tu Allan i Oriau yn cael ei drosglwyddo yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Tachwedd a bydd Delta yn gweithio’n agos â chyswllt allweddol pob adran i hwyluso hyn.
Sylwer ni fydd unrhyw newid i’r gwasanaeth Teleofal presennol neu rifau Argyfwng y Tu Allan i Oriau fel y’i cyhoeddir ar wefan y Cyngor.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â Delta ar 0300 333 2222 ar unrhyw adeg o’r dydd neu nos, neu Dîm Contractau Gofal Cymdeithasol i Oedolion Wrecsam ar 01978 298543 neu telecarecontracts@wrexham.gov.uk ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am – 5pm
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I