Adolygwyd Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019-22 yn ddiweddar, a rŵan rydym yn gofyn am eich barn chi.
Mae’r Cynllun yn cyfeirio at beth y dylwn ei flaenoriaethu dros y misoedd nesaf a sut i wneud gwelliannau – gan gofio am y cyfyngiadau cynyddol i’r nawdd rydym yn ei dderbyn gan lywodraeth ganolog.
Mae’n cynnwys chwe blaenoriaeth:
- Datblygu’r economi
- Sicrhau Cyngor modern a chryf
- Sicrhau bod pawb yn ddiogel
- Gwella addysg uwchradd
- Gwella’r Amgylchedd
- Hyrwyddo iechyd a lles
Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 24 Gorffennaf, ar ôl hynny, bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a’u dadansoddi, ac yna eu bwydo yn ôl i gynghorwyr ym mis Medi. Yna, caiff yr ymatebion eu defnyddio i ddatblygu Cynllun y Cyngor 20-22 ac ein helpu ni i osod ein cyllidebau.
“Mae eich safbwyntiau’n bwysig”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Dyma ddogfen bwysig iawn, ac un sy’n ein helpu ni i gyllidebu’n addas i fynd i’r afael â’n blaenoriaethau.
“Mae’n ystyried ystod eang o anghenion ein preswylwyr, o’r hynaf i’r ieuaf, y rhai sy’n agored i niwed a’r rheiny gydag anghenion arbennig.
“O wybod yr heriau ariannol parhau rydym yn wynebu, mae gofyn i ni fod yn realistig gyda beth y gallwn ei gyflawni a sicrhau bod ein cynlluniau’n gynaliadwy.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN