Bydd gwyliau’r Pasg yn amser perffaith i alw heibio!
Ac yn well byth – bydd gweithgareddau thema LEGO AM DDIM yn cael eu cynnal trwy gydol y gwyliau…
Dewch i’n helpu ni i adeiladu Porth Acton a’r Pedwar Ci, fersiwn brics LEGO o’r Kop ar Faes Ras CPD Wrecsam a fersiwn LEGO o logo CPD Wrecsam!
Ymunwch â’n sesiwn Gwneud a Chymryd gyda’r hwyr a byddwch yn cael cit Lego bach i’w wneud ac yna mynd adref gyda chi!
Dyddiadau a gwybodaeth archebu….
ADEILADWYR BRICS
Dydd Mercher, 13 Ebrill 2022
Sesiwn yn dechrau:
- 10:30 am
- 12 hanner dydd
- 1.30 pm
- 3 pm
Cost: AM DDIM
Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam
Gweithdy arbennig ar gyfer teuluoedd sy’n hoff o LEGO ac adeiladu.
Ewch i Eventbrite i gadw lle am ddim i’ch teulu yn un o’r sesiynau!
Darperir gan Steve Guinness, The Brick Consultant a phencampwr LEGOMASTER Channel 4
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Gaeaf Llawn Lles.
Gweithdy ‘Creu a Chymryd’ Rhif 3, Dydd Mercher, 13eg Ebrill 2022
Dewch draw i Amgueddfa Wrecsam am sesiwn am ddim gyda’r nos sy’n seiliedig ar Lego! Bydd plant yn cael cit Lego bach i’w wneud, ac yna i’w gymryd gartref gyda nhw.
Yn addas ar gyfer 7 – 13 oed ond mae croeso i frodyr a chwiorydd iau.
Bydd sesiynau’n cael eu cynnal 6pm – 7pm.
Rhaid archebu lle gan fod lleoedd yn gyfyngedig. I archebu lle ffoniwch 01978 297 460.
ADEILADU LEGO MAWR – Y KOP!
14 Ebrill – 10.30 a.m – 3.30 p.m
Cost: AM DDIM – Does dim angen archebu lle, galwch heibio a chymerwch ran!
Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam
Helpwch ni i lenwi fersiwn brics LEGO o’r Kop yng Nghae Ras Wrecsam gyda phobl bach LEGO! Gweithgaredd galw heibio sy’n addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant.
Mewn cydweithrediad â Steve Guinness, The Brick Consultant a phencampwr LEGOMASTER Channel 4
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Gaeaf Llawn Lles.
ADEILADU LEGO MAWR – UP THE TOWN!
20 a 21 Ebrill – 10.30 a.m – 3.30 p.m
Cost: AM DDIM
Lleoliad: Amgueddfa Wrecsam
Helpwch i adeiladu logo CPD Wrecsam anferth o frics LEGO i’w arddangos yn yr amgueddfa! Gweithgaredd galw heibio sy’n addas ar gyfer teuluoedd gyda phlant.
Mewn cydweithrediad â Warren Elsmore, artist LEGO, dylunydd modelau a churadur
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Gaeaf Llawn Lles.