Mae Diwrnod Chwarae yn dychwelyd ddydd Mercher 7 Awst ac unwaith eto, byddwn yn rhoi canol y dref i’n trigolion iau wrth i ni ddathlu eu hawl i chwarae.
Bydd y rhai hynny sy’n gyfarwydd â’r Diwrnod Chwarae yn gwybod fod hwn yn ddiwrnod pan gaiff canol y dref ei thrawsnewid yn ardal chwarae enfawr a rhieni a gofalwyr yn gwylio wrth i bawb fynd yn wlyb iawn, yn llanast i gyd ac yn cael amser gwych. ????
Bydd yr holl weithgareddau arferol ar gael gan gynnwys adeiladu ffau, drysfa fawr, llithren ddŵr boblogaidd, y pwll tywod enfawr a digon o weithgareddau ar gyfer y plant ieuengaf.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Daeth tua 4,000 i’r digwyddiad y llynedd ac mae staff yn paratoi am hyd yn oed mwy eleni.
Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dod mewn hwyliau chwareus a dillad nad ydych yn poeni eu gwlychu a’u baeddu.
“Dewch â phicnic”
Byddem hefyd yn eich annog i ddod â phicnic ac aros am y dydd neu fanteisio ar yr hyn sydd ar gael yng nghanol y dref.
Mae Diwrnod Chwarae ar gyfer pobl o bob oedran, gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn, pobl yn eu harddegau, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, sydd i gyd yn cael gwahoddiad i ymuno yn y digwyddiad chwareus ac am ddim hwn. Bydd sefydliadau o bob rhan o Wrecsam, sy’n ymwneud â chwarae a gwaith chwarae, yn dod ynghyd i ddarparu ystod eang o gyfleoedd chwarae, gan gynnwys hen ffefrynnau fel y pwll tywod enfawr, brwydr ddŵr fawr a chwarae â sothach.
Nod y digwyddiad hwn yw tynnu sylw at hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol. Wrth wneud hyn, mae digwyddiad diwrnod chwarae Wrecsam yn rhan o ymrwymiad parhaus yr awdurdod lleol i geisio sicrhau bod pob plentyn ar draws y fwrdeistref sirol yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.
Er mwyn cael gwell syniad o’r mathau o bethau sy’n digwydd ar Ddiwrnod Chwarae, ewch i: a chliciwch ar y ddolen Diwrnod Chwarae i weld lluniau o ddigwyddiadau blaenorol.
Mae Diwrnod Chwarae yn dechrau am 12 dydd ac yn gorffen am 4pm. Mae’n rhad ac am ddim ac fe’i cynhelir yn bennaf ar Sgwâr y Frenhines Llwyn Isaf.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION