Mae gallu mynd ar-lein yn gyflym yn rhywbeth arferol i’r mwyafrif ohonom ond yn rhai rannau o Wrecsam, mae preswylwyr a busnesau yn ei chael yn anodd iawn delio â’u cysylltedd digidol.
Gallai hyn fod oherwydd problemau gyda band eang, cyflymder 4G ffonau symudol neu gyflymder Band Eang Gwibgyswllt. Neu gallai fod yn broblem gyda darparwr rhyngrwyd hyd yn oed.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae’n bosibl mai’r cyfyngiadau symud presennol sydd wedi gwneud i rai pobl sylweddoli eu bod yn cael problemau cysylltedd oherwydd bod cyfran fawr o bobl yn gweithio, dysgu neu’n chwarae mwy o gemau gartref.
Os ydych chi’n cael problemau cysylltedd, hoffai ein Swyddog Digidol glywed gennych chi. Ar hyn o bryd, mae’n edrych ar le yn Wrecsam mae’r problemau a pha help ellid ei ddarparu i wella pethau. Ni fydd hyn yn digwydd dros nos, ond gallai ddechrau symud pethau, fel trafod integreiddio technoleg newydd, neu gael mynediad i gyllid i ganiatáu i ddarparwyr uwchraddio.
“Ardaloedd penodol lle mae cysylltedd digidol yn broblem”
Dywedodd y Cyng Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Os ydych chi’n cael problemau, cysylltwch â ni. Rydym yn ymwybodol o fannau penodol lle mae cysylltedd digidol yn broblem, fel Dyffryn Ceiriog, ond rydym yn siŵr bod mwy o ardaloedd hefyd. Ni allwn warantu gwella’r sefyllfa ond mae bod yn ymwybodol o le mae’r problemau yn fan cychwyn ac mae’n caniatáu i’n swyddog ddechrau gweithio gyda darparwyr.”
Os ydych yn cael problemau, cofnodwch nhw ar Facebook yma: Wrexham Digital-Connectivity neu os na allwch wneud hynny, ffoniwch 01978 667000 neu 07880 463348.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19