Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Atgyweiriadau Tai Cyngor Wrecsam yn recriwtio gweithwyr adeiladu cymwys mewn sawl crefft wahanol, gan gynnwys plastrwyr, plymwyr nwy a llafurwyr.

Mae’r Gwasanaeth Atgyweiriadau Tai Ymatebol yn rhan o Adran Economi a Thai Cyngor Wrecsam ac mae’r gwasanaeth hwn yn cyflawni gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar dai’r Cyngor.

Mae’r Tîm o fewn y gwasanaeth yn sicr yn un ardderchog i fod yn rhan ohono

Gyda 11,200 eiddo i’w cynnal a’u cadw ac oddeutu 1000 eiddo gwag i’w codi i safon y gellir eu gosod bob blwyddyn ar draws y fwrdeistref sirol, mae’r Gwasanaeth Atgyweirio Tai yn hynod brysur, ymatebol ac amrywiol ac mae’r Tîm o fewn y gwasanaeth yn sicr yn un ardderchog i fod yn rhan ohono.

Mae’r swyddi hyn â thelerau ac amodau da iawn, megis gweithio hyblyg, 23 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn awdurdod lleol a chyflog misol gwarantedig, mae’r swyddi’n sicr yn werth eu hystyried.

Efallai y bydd cyfleoedd ar gael i hyfforddi ymhellach ac ennill rhagor o gymwysterau fel rhan o’r swydd.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

“Rwy’n cael gweithio ar brosiectau gwahanol mewn eiddo gwahanol ledled y Fwrdeistref Sirol…”

Isod, mae saer, a gafodd ei recriwtio’n ddiweddar, yn egluro pam ei fod yn mwynhau gweithio i’r Gwasanaeth Atgyweiriadau:

“Mae fy swydd yn cynnwys ymweld ag eiddo’r cyngor ac mae’n rhaid i mi fynd i’r afael â phob math o waith coed, megis gwneud drysau, fframiau, cloeon, ffenestri, grisiau a gosod ceginau mewn eiddo gwag. Ymgeisiais am swydd gyda’r Cyngor oherwydd bod ganddo enw da ac roeddwn hefyd yn ymwybodol ei fod yn sefydliad o safon a byddwn yn cael cyfle i ddysgu mwy o sgiliau a hybu fy rhagolygon gyrfa. Mae’n dîm da iawn i weithio iddo. Mae awyrgylch gwaith da yna ac rwyf wir yn mwynhau’r amrywiaeth. Rwy’n cael gweithio ar brosiectau gwahanol mewn eiddo gwahanol ledled y Fwrdeistref Sirol ac felly mae’r swydd bob amser yn ddifyr.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae nifer o gyfleoedd gwaith ar gael ar hyn o bryd. Mae hwn yn gyfle i weithio â thîm prysur a phrofiadol a bydd posibilrwydd o hyfforddiant pellach a chymwysterau i’w hennill yn y dyfodol, felly, byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwaith i edrych ar hysbysebion swyddi’r cyngor a chyflwyno ei gais cyn gynted â phosib.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor i weld y swyddi gwag sydd ar gael.

Get instant news and info from Wrexham Council with a MyUpdates.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI