Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Grwpiau chwaraeon – manteisiwch ar y rownd nesaf o gyllid o’r Gist Gymunedol!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Grwpiau chwaraeon – manteisiwch ar y rownd nesaf o gyllid o’r Gist Gymunedol!
Pobl a lle

Grwpiau chwaraeon – manteisiwch ar y rownd nesaf o gyllid o’r Gist Gymunedol!

Diweddarwyd diwethaf: Awst 3, 2017 2:34 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Grwpiau chwaraeon – manteisiwch ar y rownd nesaf o gyllid o’r Gist Gymunedol!
RHANNU

Mae ’na lawer o grwpiau chwaraeon yn Wrecsam sy’n cynnig hyfforddiant ar chwaraeon fel pêl-droed, rygbi, bocsio, athletau a llawer mwy.

A ydych chi’n aelod o un o’r grwpiau chwaraeon cymunedol yma? Efallai eich bod chi’n rhan o redeg un?

Os ydych chi, yna peidiwch â cholli’r cyfle i gael mwy o gyllid a allai eich helpu chi ym mhob ffordd, o gyfarpar hyd at hyfforddiant.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mae Chwaraeon Cymru’n brosiect cenedlaethol sy’n annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon lleol ac mae’n cynnig hyd at £1,500 i bob cymuned drwy ei gynllun Cist Gymunedol.

Drwy’r cynllun, mae grwpiau eisoes wedi derbyn dros £18,000 ers mis Ebrill 2017.

Ar ben hynny, os yw eich grŵp chi’n benodol yn hyrwyddo chwaraeon i ferched neu bobl anabl neu’n hyrwyddo bod yn rhan o gymdeithas, fe allech chi gael hyd yn oed mwy o arian.

Mae’r rownd hon o gyllid ar agor tan ddydd Mercher 23 Awst ac fe fydd panel Chwaraeon Cymru’n cyfarfod i drafod y ceisiadau ddydd Mercher, 6 Medi.

Gall chwaraeon “ddod â phobl at ei gilydd”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae ‘na nifer o grwpiau chwaraeon ac athletau da sy’n gwneud gwaith arbennig yn eu cymunedau.

“Maen nhw’n helpu pobl i fod yn iach a byw’n iach a hefyd yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd, rhoi cyfle iddyn nhw wneud ffrindiau newydd ac i gymdeithasu.

“Fe fyddwn i’n annog unrhyw grwpiau chwaraeon sy’n credu y gallen nhw elwa o gymorth grant i gysylltu a manteisio ar y cyfle hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Louise Brady, Rheolwr Cynorthwyol Datblygu Chwaraeon yng Nghyngor Wrecsam, ar 01978 297359 neu drwy e-bost at louise.brady@wrexham.gov.uk

Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar ein gwefan.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dyma gyfle gwych i un person brwdfrydig Dyma gyfle gwych i un person brwdfrydig
Erthygl nesaf Ydych chi’n chwilio am swydd? Efallai bod gennym ni’r swydd ddelfrydol i chi... Ydych chi’n chwilio am swydd? Efallai bod gennym ni’r swydd ddelfrydol i chi…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English