Yn ôl yn 2002, pan wnaethom ni lansio ein gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn Wrecsam, roeddem yn gwybod y byddai’n rhaid i ni fynd ati’n gyflym i egluro sut roedd popeth yn gweithio i’n trigolion. Felly fe ofynnom ni am gymorth bachgen ifanc yn ei arddegau gyda gwallt melyn, a oedd yn gwisgo’i gap tu ôl ymlaen, i ledaenu’r neges drosom ni.
Bu i Michael, o ymgyrch enwog ‘Ailgylchu gyda Michael’, ymddangos ar ein taflenni, posteri, loris lludw a magnedau oergell (cofio’r rheiny?) ugain mlynedd yn ôl. Mae amser wir yn hedfan!
Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o wasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn Wrecsam, roeddem ni’n meddwl y byddai’n gyfle da i’ch atgoffa chi sut y gwnaeth Michael ein helpu ni ddysgu am ailgylchu.
Michael yn 2002
I ddechrau, roedd Michael yn awyddus i ddangos y sachau ailgylchu gwyrdd a phinc roeddem ni’n eu rhoi i chi ailgylchu eitemau’r cartref. Yn eich sach pinc, fe allech chi ailgylchu poteli plastig yn ogystal â chaniau a thuniau, ac yn eich sach gwyrdd, fe allech chi ailgylchu papurau, gan gynnwys papurau newydd, cylchgronau a chyfeiriaduron.
Wrth i ni ehangu ein gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y ffordd i gynnwys mwy o eitemau, fel gwydr, helpodd Michael ni i newid y sachau pinc a gwyrdd gwreiddiol am flwch gwyrdd a sach gwyrdd newydd i roi ein deunyddiau i’w hailgylchu.
Rhoddwyd bin gwyrdd hefyd i aelwydydd gyda gerddi i ailgylchu eu gwastraff gardd. Eglurodd Michael y gallai ein trigolion gompostio eu gwastraff gardd os byddai’n well ganddyn nhw wneud hynny, gan roi gwybod bod compostwyr cartref ar gael am bris rhad drwy ffonio ein Llinell Gymorth Ailgylchu.
Fe gawson ni nifer o awgrymiadau bach buddiol gan Michael hefyd, ac mae rhai ohonyn nhw’n dal i fod yn berthnasol heddiw:
• TYNNWCH y capiau oddi ar boteli plastig
• GOLCHWCH eich caniau/tuniau
• GWASGWCH eich deunyddiau’n fflat lle gallwch chi, i arbed lle
• PEIDIWCH â chynnwys gwastraff cegin, bagiau plastig, pridd, cerrig, brics, coed na gweddillion gardd eraill yn eich bin gwyrdd
• CEISIWCH leihau gwastraff yn y lle cyntaf drwy ddefnyddio clytiau go iawn a phrynu nwyddau gyda llai o ddeunydd pacio
Yn bendant, fe fu Michael yn rhan fawr o’r gwaith o addysgu pobl am ailgylchu yn y blynyddoedd cynnar yna, ac mae wedi ein helpu i gyrraedd pwynt lle gallwn ni ddweud bod mwyafrif ein trigolion bellach yn cymryd rhan yn y cynllun ailgylchu.
Ond y cwestiwn MAWR ydi…beth mae Michael yn ei wneud y dyddiau yma?
Michael yn 2022
Ydi o’n dal i fod yn Wrecsam? Wnaeth o adael y wlad? Cadwch lygad am negeseuon Ailgylchu gyda Michael ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan adael sylw i ddweud beth rydych chi’n ei feddwl y mae Michael yn ei wneud y dyddiau yma.
Tybed allech chi roi gwybod i ni hefyd os yw’ch magned Ailgylchu gyda Michael gwreiddiol gennych chi o hyd 🙂
I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR