Gyda chyllidebau aelwydydd yn ei chael hi’n anodd dal i fyny gyda’r cynnydd mewn costau byw, rydym ni’n annog pawb i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r holl fudd-daliadau a chymorth y mae ganddynt hawl iddynt.
Menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Adviceline Cymru i’ch helpu chi i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio i sicrhau eich bod yn Hawlio’r Hyn sy’n Ddyledus i Chi.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae’n cynnig cyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim ar amrywiol bynciau megis:
- Budd-daliadau Lles
- Dyled
- Cyflogaeth
- Addysg
- Tai
- Mewnfudo
- Gwahaniaethu
- cymorth tanwydd gaeaf
Gallwch gysylltu ag un o’u cynghorwyr drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim 0808 250 5700 neu ewch i’w gwefan lle gallwch ddysgu mwy am gael cymorth. Mae’r llinell ar agor o ddydd Llun – ddydd Gwener, 9am -5pm.
Pan fyddwch chi’n cysylltu ag Advicelink Cymru, bydd cynghorydd hyfforddedig yn siarad gyda chi am eich amgylchiadau ac yn eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Bydd y cynghorydd yn eich cefnogi trwy gydol o broses hawlio ac yn eich helpu i lenwi unrhyw ffurflenni hawlio. Gallant hefyd eich cynghori am ba dystiolaeth sydd angen i chi ei ddarparu i gefnogi eich cais.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH