A fydd eich plentyn yn defnyddio cludiant i’r ysgol y tymor hwn? Dyma wybodaeth ddefnyddiol…
Trefniadau
Bydd nifer o blant yn gwneud y trosglwyddiad o ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd, a gwyddwn y gall ddechrau ysgol newydd fod yn amser pryderus.
Os nad ydych wedi clywed unrhyw beth am gludiant ysgol eich plentyn eto, peidiwch â phoeni – byddwn yn parhau i gysylltu â rhieni’r wythnos hon i gadarnhau trefniadau.
6 awgrym defnyddiol a fydd yn ei gwneud yn haws i ddechrau yn yr ysgol uwchradd
Diogelwch Covid-19
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, bydd angen i ddisgyblion uwchradd (Blwyddyn 7 ac uwch) wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant ysgol.
Pasys Bws
Bydd pasys ar gyfer dechreuwyr newydd yn barod i’w casglu o’r ysgol. Bydd gweithredwyr bysiau yn caniatáu disgyblion newydd ar y bws heb basys ar y diwrnod cyntaf.
Gellir amnewid pasys sydd wedi cael eu colli neu eu difrodi am gost o £5.50. Gallwch wneud hyn ar-lein trwy wefan y cyngor – mae’n gyflym ac yn hawdd. Neu ffoniwch 01978 298996.
Gwaith ffordd
Mae gwaith ffordd amrywiol a all gael effaith ar weithredwyr bysiau a thacsis yn ystod diwrnod cyntaf y tymor.
Felly mae hyn yn rhywbeth i’w ystyried.
Angen help?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ystod diwrnodau cyntaf y tymor, cysylltwch â’n tîm cludiant ysgol.
Bydd negeseuon e-bost yn cael eu monitro’n barhaus er mwyn galluogi staff i wneud galwadau ffôn i weithredwyr, ysgolion a rhieni er mwyn datrys unrhyw broblemau sy’n codi.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Ar gyfer nifer o blant sy’n dechrau yn yr ysgol uwchradd, dyma’r tro cyntaf iddynt ddefnyddio cludiant ysgol.
“Mae’n naturiol i blant a rhieni deimlo ychydig yn bryderus, ond mae ein swyddogion cludiant wedi bod yn brysur yn rhoi trefniadau yn eu lle, ac ar gael i helpu os oes unrhyw un yn poeni.
“Os yw eich plentyn ym Mlwyddyn 7 neu uwch, sicrhewch eu bod yn gwisgo gorchudd wyneb ar gludiant ysgol, yn unol â chanllawiau Covid cyfredol Cymru. Mae hyn yn bwysig iawn a bydd yn helpu i gadw ysgolion a bysiau yn ddiogel.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN