Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, rydym ni hefyd yn cyflwyno ffioedd parcio newydd.
Ar ôl cynnig parcio am ddim drwy gydol mis Rhagfyr – a oedd yn llwyddiant ysgubol – bydd y ffioedd a’r bandiau prisio newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2018.
Y nod yw denu mwy o bobl i ganol y dref ac annog siopwyr i aros yn hirach, ac felly bydd parcio arhosiad byr yn cael ei ymestyn 1 awr sy’n golygu y gallwch chi barcio o 1 i 3 awr am £1.80. Dyma fydd ffi pob maes parcio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Yn ogystal, byddwn yn lleihau pris parcio yn y Byd Dŵr – ein maes parcio mwyaf – i £3 drwy’r dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener. Ar ben hyn, bydd trwydded parcio chwe mis y maes parcio hwnnw yn costio £300 (yn hytrach na £350).
Fodd bynnag, bydd cost parcio ym maes parcio Ffordd Cilgant yn cynyddu, gyda chost parcio drwy’r dydd yn codi i £2 a thrwydded barcio chwe mis yn costio £200.
Mae parcio am ddim ar ôl 3pm yn Ffordd Cilgant a Thŷ Pawb (Marchnad y Bobl gynt) hefyd yn newid, gyda’r ffioedd yn berthnasol tan 6pm ac yna’n £1 tan hanner nos.
Bydd Tŷ Pawb, y prosiect newydd a chyffrous ar safle Marchnad y Bobl, yn agor fis Ebrill 2018. Bydd cost parcio ar y safle yn £1 am awr.
Adlewyrchu’r galw am barcio
Rydym ni’n gwneud y newidiadau hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod gennym ni strwythur ffioedd sy’n adlewyrchu’r galw am barcio yng nghanol y dref.
Mae’r gwelliannau rydym ni wedi eu gwneud i’n meysydd parcio’n ddiweddar, gyda pheiriannau newydd sy’n golygu y gallwch chi dalu gyda cherdyn a chyda ffôn symudol yn defnyddio’r ap Just Park, yn dangos bod Cyngor Wrecsam yn ymdrechu i wella cyfleusterau parcio canol y dref a’r ardal gyfagos er mwyn denu mwy a mwy o bobl i’r dref.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y ffioedd newydd hyn yn dod â’n holl feysydd parcio yng nghanol y dref yn unol â’i gilydd, a bydd y trefniadau yn fwy teg ar draws yr holl feysydd parcio.
“Byddwn yn sicrhau bod gennym ni strwythur prisio parcio sy’n adlewyrchu gofynion parcio yng nghanol y dref, a byddwn yn diwallu anghenion trigolion, ymwelwyr a busnesau lleol.
“Bydd y ffi newydd 1-3 awr am £1.80 yn caniatáu i siopwyr dreulio mwy o amser yn y dref, a bydd y gostyngiad ym mhris parcio drwy’r dydd yn y Byd Dŵr, ein maes parcio mwyaf, yn galluogi iddyn nhw aros yn hwy.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU