Os nad ydych chi’n gyfarwydd ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen na’r Eisteddfod Genedlaethol, yna darllenwch ymlaen!
Ar ôl darllen ein canllaw defnyddiol dylech chi allu gwybod y gwahaniaeth – yn ogystal ag edrych ymlaen at pryd y byddan nhw’n cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn!
Y peth cyntaf i’w wybod yw bod y ddwy Eisteddfod yn tywys pobl trwy ddathliadau lliwgar a cherddorol o ddiwylliannau
Beth yw’r Eisteddfod Genedlaethol?
Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop ac mae’n cael ei chynnal yn flynyddol ym mis Awst.
Mae gwreiddiau’r Eisteddfod Genedlaethol yn dyddio’n ôl i tua 1176 pan gynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi; fodd bynnag, sefydlwyd yr Eisteddfod ‘fodern’ gyntaf ym 1861, ac fe’i cynhaliwyd yn Aberdâr.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd mewn gwahanol leoliadau ledled y wlad bob blwyddyn, gan gylchdroi rhwng Gogledd a De Cymru. Eleni, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Wrecsam rhwng 2 Awst a 9 Awst ac roedd yn Wrecsam ddiwethaf yn ôl yn 2011.
Mae’r Eisteddfod yn cael ei hariannu gan wahanol ffynonellau, ond un o’r ffrydiau refeniw pwysicaf yw trwy grwpiau codi arian lleol yn yr ardal sy’n ei chynnal! Mae’n ffordd wych o ymgysylltu, neu ail-ymgysylltu â’ch cymuned leol.
Gallwch chi gael gwybod mwy am grwpiau cymunedol a chymryd rhan yma.
Mae’n ŵyl lle gall pobl gystadlu mewn amrywiaeth eang o wahanol gystadlaethau, ymweld â’r gwahanol stondinau sydd ar y maes ac ymweld â ‘Maes B’, gŵyl o fewn gŵyl lle gallwch chi wylio llawer o fandiau ac artistiaid unigol byw. Y prif berfformwyr ym Maes B eleni yw Bwncath, Gwilym, Fleur De Lys ac Adwaith.
Ydy’r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig?
Mae rhai bobl yn credu bod yr Eisteddfod ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn unig; fodd bynnag, nid yw hyn yn wir. Mae’n ŵyl genedlaethol lle gall pobl ddysgu Cymraeg a dathlu ein hiaith a’n diwylliant.
Mae yna ddigon o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar y maes, boed hynny’n dipyn bach neu’n llawer!
Mae hyd yn oed ardal benodol i ddysgwyr Cymraeg, sef ‘Maes D‘
Beth yw Eisteddfod Llangollen?
Sefydlwyd yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol ym 1947 ac mae’n cael ei chynnal bob blwyddyn ym mis Gorffennaf yn Llangollen.
Dechreuodd gyda gweledigaeth y gallai hen draddodiad Cymreig yr eisteddfod gynnig modd o wella clwyfau’r Ail Ryfel Byd, a helpu i hyrwyddo heddwch parhaol.
Mae’n ŵyl i ddathlu a phrofi dawns, cerddoriaeth a diwylliant rhyngwladol o bob cwr o’r byd.
Ariennir Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen drwy gyfuniad o roddion, nawdd a buddsoddiadau; fodd bynnag, yn union fel yr Eisteddfod Genedlaethol, un o’r ffrydiau refeniw pwysicaf yw trwy grwpiau codi arian lleol yn y gymuned! Mae Eisteddfod Llangollen yn ceisio denu noddwyr unigol a chorfforaethol.
Mae’r sefydliad yn gwahodd cerddorion adnabyddus i berfformio ym mis Mehefin cyn i’r Eisteddfod ddechrau. Eleni, bydd James, Texas, Rag’n’Bone Man, UB40, The Script, Olly Murs a The Human League yno. Maen nhw hefyd yn cynnal gorymdaith liwgar o genhedloedd trwy’r dref y gall pawb sy’n cystadlu o bob cwr o’r byd gymryd rhan ynddi. Mae hon yn cael ei chynnal ar 3 Gorffennaf 2025.
Mae rhagor o fanylion am yr Eisteddfod Ryngwladol ar gael ar eu gwefan