Ydych chi’n gwybod a ydych chi’n gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim?
Os yw’ch plentyn o oedran derbyn neu’n hŷn a’i ysgol yw’r un agosaf at eich cartref ond mae’n fwy na 3 milltir i ffwrdd o’ch cyfeiriad cartref ar gyfer ysgolion uwchradd, neu’n ddwy filltir ar gyfer ysgolion cynradd, efallai y byddwch yn gallu cael trafnidiaeth ysgol am ddim i’ch plentyn.
Gellir gwneud eithriad os bydd eich plentyn yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol ffydd, ac nad yr ysgol a ddewiswyd yw’r agosaf at ei gyfeiriad cartref. Yn y ddau achos, dim ond os yw’ch plentyn yn byw dros y pellter lleiaf o’r ysgol y mae trafnidiaeth am ddim ar gael ar ei gyfer.
Os ydych chi’n gymwys, gallwch wneud cais drwy’r ffurflen gais trafnidiaeth ysgol ar ein gwefan.
I’r rhai sy’n dymuno gwneud cais am drafnidiaeth ysgol am ddim yn barod ar gyfer mis Medi 2025, y terfyn ar gyfer ceisiadau yw 31 Mai, 2025. Efallai na fydd unrhyw geisiadau sy’n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn yn gallu gwarantu y bydd trafnidiaeth yn barod ar gyfer dechrau’r tymor ym mis Medi.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Os ydych chi’n meddwl bod gan eich plentyn hawl i gael trafnidiaeth ysgol am ddim, cysylltwch â’r Tîm Trafnidiaeth Ysgol. Er bod costau byw yn parhau i godi, dyma un o’r ffyrdd y gall teuluoedd dderbyn cymorth tuag at gostau sy’n gysylltiedig ag addysg. Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i atgoffa rhieni i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol trwy edrych ar dudalen we’r Cyngor.”
Am ragor o wybodaeth, gallwch edrych ar Bolisi Trafnidiaeth Ysgol y Cyngor neu e-bostiwch y Tîm Trafnidiaeth Ysgol yn school.transport@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.