Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Grant CFfG yn mynd â busnes artist i’r lefel nesaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Grant CFfG yn mynd â busnes artist i’r lefel nesaf
Busnes ac addysg

Grant CFfG yn mynd â busnes artist i’r lefel nesaf

Diweddarwyd diwethaf: Mai 2, 2025 11:02 am
Rhannu
Darllen 3 funud
SPF grant
RHANNU

Maen nhw’n dweud na weithiwch chi ddiwrnod yn eich bywyd os ydych chi’n caru beth rydych chi’n ei wneud – dyma beth sydd wedi digwydd i’r artist o Wrecsam, Amy Swann.

Mae Amy yn cynhyrchu amrywiaeth o addurniadau wedi’u peintio a’u hargraffu â llaw, gan gynnwys darnau pren, ceramig a ffabrig printiedig, i gyd wedi’u gwneud i sefyll prawf amser fel cofroddion etifeddol, a gyda chymorth grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) mae wedi symud ei hangerdd o fwrdd y gegin i ofod creadigol pwrpasol.

Meddai Amy:  “Mae cael gofod stiwdio yn golygu ’mod i’n gallu cwrdd â’r galw a’r diddordeb cynyddol yn fy ngwaith. Mae’r tîm busnes yng Nghyngor Wrecsam wedi bod yn gefnogaeth amhrisiadwy, nid yn unig wrth helpu i wneud y broses grant mor hawdd â phosibl, ond hefyd fel rhwydwaith cynnes a chyfeillgar am gyngor ac arweiniad bob cam o’r ffordd.”

Mae gwaith Amy wir yn adlewyrchu ei magwraeth Gymreig, wedi’i hysbrydoli gan fynyddoedd, rhaeadrau, coetir a milltiroedd o gaeau, ac mae ganddi werthfawrogiad dwfn o natur, ymdeimlad cryf o ddiwylliant, gwreiddiau teuluol a thraddodiad.

Ar ôl gadael ei gyrfa 15 mlynedd fel athro celf a dod yn fam i dair merch, penderfynodd Amy ganolbwyntio ar ei chreadigrwydd ei hun, gan ddechrau trwy beintio casgliad bach o beli Nadolig wedi’u hysbrydoli gan batrwm bohemaidd gwerin. Roedd yr ymateb a gafodd yn anghredadwy, felly aeth amdani a dechrau datblygu casgliad Nadolig o addurniadau wedi’u peintio â llaw.

Ers hynny mae busnes Amy wedi tyfu a thyfu.  Mae hi wedi ymddangos yng nghylchgrawn Country Homes and Interiors Country Living a Period Living Magazine, ac mae wedi adeiladu partneriaeth barhaus gyda’r brand adnabyddus Fortnum & Mason, cydweithrediad arbennig â BODEN a chynhyrchu darn o waith ar gyfer llyfr Holly Tucker MBE, ‘Do What You Love’.

Grant CFfG yn mynd â busnes artist i'r lefel nesaf

Meddai Fortnum & Mason: “Mae Amy Swann yn grefftwr o Gymru sy’n creu eitemau wedi’u peintio’n hyfryd sy’n dathlu eiliadau hudolus, ystyrlon a hapus. Gan weithio gyda deunyddiau amrywiol mae Amy yn cynhyrchu cofroddion manwl a chain i’w trysori am genedlaethau.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Mae busnes Amy yn mynd o nerth i nerth, sy’n wych. Mae gallu cael ei gofod creadigol ei hun gyda chymorth y grant CFfG yn golygu ei bod wedi gallu cynyddu cynhyrchiant a thyfu hyd yn oed yn fwy.

“Mae defnyddio ei threftadaeth Gymreig fel ysbrydoliaeth yn ychwanegu rhywbeth arbennig iawn i’w gwaith ac rwy’n dymuno pob lwc iddi yn y dyfodol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol School Transport Ydych chi’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim?
Erthygl nesaf ON the left of the image is the Managing Director of Gower Homes, to his right is Councillor Paul Blackwell, and then two Housing Officers. This Image is a collage image, so at the right of the image inclyde a photograph of the exterior of the home that the article is referring to Cyngor Wrecsam yn sicrhau 2 gartref ynni-effeithlon arall gan Gower Homes fel Tai Cyngor

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English