Os ydych chi’n mwynhau mynd a’ch ci am dro, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol o’r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus o ran rheoli cŵn, sydd mewn grym ar draws y fwrdeistref sirol.
Ond, os nad ydych chi, neu os ydych chi’n berchennog ci newydd, efallai nad ydych yn gwybod am yr amodau ac nid ydym ni eisiau i chi wynebu dirwy o £100.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Dyma beth yr ydych angen ei wybod:
- Rhaid i chi gael gwared ar faw cŵn ym mhob man cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol
- Ni ddylech ganiatáu eich ci ar lawntiau bowlio, caeau chwarae sydd wedi’u marcio ac ardaloedd chwarae plant sydd wedi’u ffensio, parciau sgrialu, cyrtiau tennis ac ardaloedd chwarae aml-ddefnydd. (Mae perchnogion â chŵn tywys yn cael eu heithrio)
- Mae’n rhaid i chi roi eich ci ar dennyn ar gais Swyddog Awdurdodedig
- Rhaid i’ch ci fod ar dennyn o gwmpas canolfannau ymwelwyr, meysydd parcio parciau gwledig a lawntiau bowlio
- Dylai eich ci fod ar dennyn ar ffyrdd cyhoeddus a/neu balmentydd.
Cyflwynwyd y mesurau yn 2017 yn dilyn ymgynghoriad gyda’r cyhoedd a oedd yn dangos cefnogaeth gref ar gyfer rheoli cŵn mewn ardaloedd penodol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fel perchennog ci fy hun, nid wyf yn gweld yr amodau yn rhai anodd eu dilyn, ond am ryw reswm nid yw rhai ymwelwyr i’n parciau ac ardaloedd cyhoeddus yn gwybod beth i’w wneud neu maent yn gwrthod glynu atynt. Mae cosb am hyn, a gallwch dderbyn dirwy o £100.
“Cadwch at yr amodau a mwynhewch eich amser gyda’ch ci.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB