Mae Cyngor Wrecsam am recriwtio gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso yr haf hwn, i weithio mewn gofal cymdeithasol oedolion a phlant.
Os ydych chi wedi graddio’n ddiweddar gyda gradd mewn gwaith cymdeithasol ac yn awyddus i gymryd eich camau cyntaf ar yr ysgol yrfaol, gallai Cyngor Wrecsam fod yn berffaith i chi.
Mae gan y cyngor raglen gymorth sefydledig ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, sef y Fframwaith Blwyddyn Gyntaf yn Ymarfer.
Y nod yw sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn cael y lefel gywir o gefnogaeth yn ystod eu 12 mis cyntaf – gan roi llawer o hyfforddiant ac arweiniad iddynt, a rheoli maint a chymhlethdod eu llwythi gwaith yn ofalus fel nad ydynt yn cael eu gorlethu.
Dechreuodd y gweithiwr cymdeithasol Wes ei yrfa yn Wrecsam sawl blwyddyn yn ôl, ac mae’n teimlo ei fod wedi rhoi sylfaen gadarn iddo.
Dywedodd: “Gwnaeth y diwylliant a’r amgylchedd dysgu, a’r cyfleoedd maen nhw’n eu rhoi i chi o ran hyfforddi a datblygu, fy annog i wneud cais fel gweithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso, ac fe wnes i elwa o hynny trwy gydol camau cynnar fy ngyrfa.”
Felly, os ydych chi newydd ddechrau fel gweithiwr cymdeithasol, ystyriwch Gyngor Wrecsam.
Mae Wrecsam hefyd yn lle gwych i fyw os ydych chi’n ystyried symud – mae’n ddinas fywiog a modern gyda chymeriad unigryw wedi’i adeiladu ar bêl-droed, cerddoriaeth, arloesedd a thraddodiad.
Mae hefyd yn cynnig mynediad hawdd i gefn gwlad ac arfordir gwych Gogledd Cymru, yn ogystal â dinasoedd allweddol ar draws gogledd-orllewin Lloegr, gan gynnwys Lerpwl, Manceinion a Chaer.
I ddysgu mwy a gwneud cais am rolau gweithwyr cymdeithasol, ewch i wefan Cyngor Wrecsam.