Ydych chi’n ystyried mynd yn hunangyflogedig ond ddim yn gwybod lle i ddechrau? Yna beth am fynd draw i Lyfrgell Wrecsam, ddydd Mercher 7 Chwefror, 1-2pm ar gyfer digwyddiad arbennig Dysgu yn Ystod Amser Cinio.
Mae’r sesiwn addysgiadol wedi’i anelu’n benodol at unrhyw un sy’n ystyried mynd yn hunangyflogedig.
Dewch i wybod am yr amrediad o wasanaethau cefnogi sydd ar gael i’ch helpu chi i ddechrau eich busnes eich hun, gyda’r mwyafrif helaeth ohonynt yn rhad ac am ddim. Dysgwch am y rheoliadau, grantiau, cyfleoedd marchnata a llawer mwy. Mae’r sesiwn hwn yn rhad ac am ddim a chaiff ei gyflwyno gan yr arbenigwr lleol, Gareth Hatton o Llinellfusnes.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi – Datblygiad Economaidd ac Adfywiad, “Dyma gyfle perffaith i unrhyw un sy’n ystyried mynd yn hunangyflogedig. Mae Llinellfusnes yn adnodd hygyrch gwych a dylai unrhyw un â diddordeb mewn busnes gysylltu â nhw am gyngor.”
Beth yw Llinellfusnes?
Mae’r Llinellfusnes, sydd wedi’i leoli ar lawr cyntaf Llyfrgell Wrecsam, yn wasanaeth gwybodaeth fusnes proffesiynol ac am ddim yn bennaf i unrhyw un sy’n dechrau busnes, eisoes mewn busnes neu’n astudio busnes.
Bydd yr adnoddau a’r wybodaeth yn eich helpu i:
– Wneud penderfyniadau mwy effeithiol
– Arbed amser i chi
– Arbed arian i chi
Mae gan y tîm Llinellfusnes ystod o brofiad, gwybodaeth a chymwysterau mewn busnes a rheoli gwybodaeth.
Gallant helpu:
– Dechrau busnesau
– Busnesau a sefydlwyd
– Myfyrwyr
– Ceiswyr gwaith
– Sefydliadau Cymorth Busnesau
Gallwch alw heibio, ffonio, anfon e-bost neu bostio eich ymholiad i’r tîm. Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau a ddarperir gan y Llinellfusnes am ddim.
Am fwy o wybodaeth:
Llinellfusnes
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam LL11 1AU
businessline@wrexham.gov.uk
01978 292092
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT