Mae’r cyngor yn gwario eich arian …ar ddarparu gwasanaethau i chi.
Felly rydym angen sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei reoli a’i wario’n effeithiol Dyma fydd ein Pwyllgor Archwilio yn edrych arno pan fydd yn cwrdd ddydd Iau yma, 28 Chwefror.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
I’w drafod ar 28 Chwefror
Bydd y pwyllgor yn edrych ar waith ein harchwilwyr – mewnol ac allanol.
Y cadeirydd yw Jerry O’Keeffe. Nid yw’n gynghorydd nac yn gweithio i’r Cyngor, ond aelod annibynnol o’r cyhoedd.
Dywed: “Mae cynghorau yn sefydliadau cymhleth sy’n effeithio ar bob un ohonom Mae archwilio effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod rheolyddion yn ddigon cadarn i warchod y cyngor rhag gwall, twyll a gwastraff.
“Rydym hefyd yn sicrhau bod rheolwyr yn ymateb i archwiliadau ac yn rhoi’r holl welliannau y cytunwyd arnynt ar waith.”
Dewch i’r cyfarfod
Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, felly beth am fynd draw os gewch chi gyfle?
Dywedodd Mr O’Keeffe: “Mae’r pwyllgor yn edrych ar faterion difrifol, ond nid yw’r cyfarfodydd yn frawychus na sych.
“Maent yn cael eu cynnal mewn arddull cynhwysol, a rydym yn croesawu aelodau o’r cyhoedd i fod yn bresennol.”
Oes gennych chi ddiddordeb? Cynhelir y cyfarfod ddydd Iau yma, 28 Chwefror yn Neuadd y Dref, Wrecsam am 4pm. Gallwch weld y rhaglen ar wefan y Cyngor.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU