Mae’n bryd i rieni ledled y DU ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant os yw eu plentyn yn 16 i 19 oed ac yn parhau mewn addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch neu hyfforddiant cymeradwy.
Anfonodd CThEF 1.4 miliwn o lythyrau at rieni rhwng 24 Mai a 17 Gorffennaf, yn esbonio sut i ymestyn eu hawliad. Os nad ydych chi wedi cael llythyr eto, peidiwch â phoeni. Gallwch ymestyn eich Budd-dal Plant o hyd drwy ap CThEF neu ar-lein lle bo hynny’n gymwys.
Rydym yn gwybod pa mor bwysig y gall Budd-dal Plant fod i deuluoedd, felly rhowch wybod i CThEF erbyn 31 Awst os yw’ch plentyn yn bwriadu parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy.
Bydd ymestyn eich Budd-dal Plant yn sicrhau na fyddwch yn colli allan ar unrhyw daliadau o 31 Awst.
Fodd bynnag, os bydd eich plentyn yn newid ei feddwl am addysg bellach neu hyfforddiant, gallwch roi gwybod i CThEF ar-lein neu drwy’r ap a byddwn yn gallu diweddaru ein cofnodion ac addasu unrhyw daliadau yn ôl yr angen.
Os na all rhieni ymestyn eu Budd-dal Plant ar-lein, gallan nhw wneud hynny drwy’r post neu dros y ffôn.