Mae’n ymgynghoriad cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 wedi cychwyn.
Rydym am i chi gymryd rhan, a gadael i ni wybod beth yw’ eich barn am feysydd allweddol.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy.
Pam rydym ni yn y sefyllfa hon
Yn gynnar fis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Cyllideb dros dro, sy’n nodi’n fanwl faint o arian fydd yn mynd i wasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru. Mae’r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro wedyn yn nodi faint mae bob Cyngor yn ei dderbyn.
O dan y setliad, mae Cyngor Wrecsam yn wynebu toriad mewn cyllideb o 0.6 y cant, sy’n golygu y bydd angen i ni ddarganfod £9 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.
Rydym wedi gorfod gwneud £60 miliwn o doriadau ers argyfwng ariannol 2007/8, ac eisoes wedi gwneud toriadau i nifer o wasanaethau.
Yn ogystal ag edrych tua’r flwyddyn nesaf, mae’n rhaid i ni hefyd feddwl am y flwyddyn wedyn a’r blynyddoedd wedi hynny, wrth i’n gwasanaethau rheng flaen wynebu pwysau cynyddol.
Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard a’r Prif Weithredwr Ian Bancroft wedi bod yn trafod y setliad a’n sefyllfa mewn fideo, y gallwch ei gwylio drwy glicio yma
Mae’r rhain yn doriadau nad ydym am eu gwneud. Maent yn cynnwys llawer o feysydd gwasanaeth ac rydym yn gwybod eu bod yn bwysig iawn i filoedd o bobl.
Ond, os na fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu faint o gyllideb y bydd yn ei roi i Gyngor Wrecsam yn ei Setliad Llywodraeth Leol Terfynol ar ddiwedd Rhagfyr – ac rydym yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Y DU am fwy o arian – fydd dim dewis gennym.
Dydy gwneud dim byd ddim yn opsiwn. Bydd yn rhaid i wasanaethau newid, a bydd yn rhaid i ni wneud toriadau.
Sut mae’r gyllideb yn gweithio?
Yn y flwyddyn ariannol bresennol, cyfanswm y gyllideb yw £233 miliwn, sy’n cynnwys £175 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £58 miliwn mewn Treth Cyngor.
Mewn rhai meysydd, mae’n rhaid i ni ddarparu gwasanaeth yn ôl y gyfraith; pethau fel gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant, ac ysgolion / addysg.
Mae costau eraill y mae’n rhaid i ni eu talu, er enghraifft costau gwaredu gwastraff neu fudd-daliadau tai.
Gallwn wneud arbedion effeithlonrwydd yn y meysydd hynny i arbed arian, ond bydd bob amser yn rhaid i ni eu cynnig.
Felly bydd rhaid i lawer o’r toriadau y bydd yn rhaid i ni eu gwneud ddod o feysydd eraill.
Llynedd, edrychodd yr ymgynghoriad ar lawer o feysydd ar draws nifer o amrywiol wasanaethau, yn ymwneud â phethau fel parciau gwledig a gwasanaeth cerddoriaeth ysgolion.
Ond eleni, gan ein bod eisoes wedi gwneud y newidiadau i’r gwasanaethau y sonnir amdanynt uchod, rydym yn gorfod canolbwyntio ar beth mae pobl yn feddwl am ychydig o wasanaethau pwysig.
Mae’r cwestiynau allweddol rydym yn eu holi yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â:
- Incwm
- Gwasanaethau gwastraff
- Llyfrgelloedd
- Cludiant i Ysgolion ffydd
- a Threth y Cyngor.
Mae croeso i awgrymiadau eraill, wrth gwrs – a bydd yr ymgynghoriad yn mynd trwy bob eitem arall ar y rhestr o gynilion arall mae rhaid i ni i wneud, ond mai rhaid i ni ganolbwyntio ar y meysydd yma yn arbennig.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud o flaen llaw – mae rhaid i ni glywed gan y cyhoedd cyn i ni fynd ymlaen.
“Wnewch chi ddim gwrando beth bynnag!”
Rydym yn ymwybodol na fydd y dewisiadau rydym yn eu rhoi gerbron pobl yn rai poblogaidd.
Mae pethau fel casglu gwastraff a Threth Cyngor yn effeithio pawb – yn hytrach nag effeithio clystyrau bach o ddefnyddwyr gwasanaeth yn unig.
Rydym yn deall rhwystredigaeth pobl o ran ymgynghoriadau ac ymatebion iddynt. Ers dechrau’r caledi, mae pob sefydliad wedi gorfod gofyn i’r cyhoedd beth yw eu barn am rai o’r penderfyniadau anodd maent wedi gorfod eu gwneud, wrth i gyllidebau grebachu.
Ac wrth i doriadau barhau mae llawer o bobl yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Ond drwy beidio dweud unrhyw beth rydych yn colli cyfle i ddweud eich dweud. Peidiwch.
Fel y nodwyd uchod, mae’r gwasanaethau hyn yn rai sy’n effeithio ar bawb – felly y mwyaf o bobl sydd yn dweud eu dweud, y gorau.
“Sut alla’i gymryd rhan?”
I gymryd rhan yn yr ymghyngoriad, cliciwch y dddolen gyswllt hon.
Gallwch ofyn am gopïau papur trwy alw 01978 292 000.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Wrth i ni ganfod ein hunain yn derbyn setliad dros dro annheg gan Lywodraeth Cymru, ac wedi degawd o doriadau a newidiadau gwasanaeth parhaol, rhaid i ni bellach edrych ar newidiadau arfaethedig i wasanaethau ehangach, rheng flaen.
“Gall pob un o drigolion Wrecsam gael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig – ac felly mae’n hanfodol fod cymaint o bobl a phosib yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn
DWI ISIO MYNEGI FY MARN DOES DIM OTS GEN I