Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dim esgus am dipio anghyfreithlon yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dim esgus am dipio anghyfreithlon yn Wrecsam
Y cyngor

Dim esgus am dipio anghyfreithlon yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 11, 2026 9:29 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Fly-tipping next to public litter bins
RHANNU

Dyma atgoffa trigolion nad oes esgus am dipio anghyfreithlon, yn dilyn pryderon am wastraff yn cael ei ollwng mewn mannau cyhoeddus ar draws y fwrdeistref sirol.

Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn 1,689 o adroddiadau am dipio anghyfreithlon.

Mae tipio anghyfreithlon yn erbyn y gyfraith, yn difrodi cymunedau lleol, yn creu costau glanhau diangen, a gall gael effaith ddifrifol ar yr amgylchedd.

Mae trigolion yn cael eu hannog i waredu gwastraff yn gyfrifol trwy ddefnyddio canolfannau ailgylchu swyddogol, gwasanaethau casglu gwastraff swmpus neu gludwyr gwastraff trwyddedig. Gallwch ddod o hyd i gludwr gwastraff trwyddedig ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Daw’r neges atgoffa ar ôl i bryderon gael eu codi am eitemau o’r cartref yn cael eu gollwng mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys eitemau gwastraff swmpus fel eitemau trydanol ac offer gardd.

Gallai unrhyw un sy’n cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon yn Wrecsam gael hysbysiad cosb benodedig o £400, tra gallai deiliaid tai sy’n methu â bodloni dyletswydd gofal wrth waredu gwastraff dderbyn hysbysiad cosb benodedig o £300, neu ddirwy ddiderfyn os cânt eu herlyn.

Gellir mynd ag achosion mwy difrifol i’r llys, lle gallai troseddwyr wynebu dirwy o hyd at £50,000 neu ddedfryd o 12 mis o garchar.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau’r Amgylchedd, “Does dim esgus o gwbl am dipio anghyfreithlon yn Wrecsam, yn enwedig pan fydd gan drigolion fynediad at ganolfannau ailgylchu a ffyrdd priodol o waredu eu gwastraff.”

“Mae gollwng sbwriel mewn mannau cyhoeddus yn hunanol, anghyfrifol ac yn gwbl annerbyniol. Mae’n difetha ein cymunedau, yn costio arian i’w glirio, ac yn annheg ar y trigolion sy’n ymfalchïo yn lle maen nhw’n byw.”

“Rydyn ni eisiau anfon neges glir na fydd tipio anghyfreithlon yn cael ei oddef. Os cewch chi eich dal, gallech chi wynebu hysbysiad cosb benodedig, erlyniad, dirwy sylweddol neu hyd yn oed garchar yn yr achosion mwyaf difrifol.”

“Os oes gennych chi wastraff i gael gwared arno, defnyddiwch y canolfannau ailgylchu, trefnwch gasgliad a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio cludwr gwastraff trwyddedig; does dim esgus am ei ollwng.”

Canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref Wrecsam yw:

Stad Ddiwydiannol Wrecsam (Lôn y Bryn)

Lôn y Bryn

Stad Ddiwydiannol Wrecsam

LL13 9UT

Brymbo

Y Lodge

Brymbo

LL11 5NR

Plas Madoc

Banc Wynnstay

Plas Madoc

LL14 3ES

Mae tudalen we canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar wefan Cyngor Wrecsam hefyd yn rhestru’r mathau o eitemau y gellir eu cymryd i bob safle. Ni dderbynnir gwastraff masnachol na diwydiannol yng nghanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref Wrecsam.

Gellir rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon i Gyngor Wrecsam hefyd drwy’r ffurflen ‘Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon’ ar-lein.

Mae mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a dylai’r rhai sy’n gollwng gwastraff yn anghyfreithlon fod yn ymwybodol y gellir cymryd camau gorfodi ac y gwneir hynny os oes rhaid.

Rhannu
Erthygl flaenorol YMGYNGHORIAD: Dweud eich dweud ar ysgol arbennig newydd yng Ngwersyllt YMGYNGHORIAD: Dweud eich dweud ar ysgol arbennig newydd yng Ngwersyllt
Erthygl nesaf Helpu teuluoedd i gael yr hyn mae ganddyn nhw hawl iddo: Gwasanaeth Wrecsam yn codi £3.6 miliwn i deuluoedd lleol Helpu teuluoedd i gael yr hyn mae ganddyn nhw hawl iddo: Gwasanaeth Wrecsam yn codi £3.6 miliwn i deuluoedd lleol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English