Mae Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019-22 wedi’i adolygu’n ddiweddar a’i gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol.

Mae’r cynllun yn nodi meysydd y dylem eu blaenoriaethu a sut y dylem wella pethau – gan gadw’r setliadau ariannol cyfyngedig rydym ni’n eu derbyn gan y llywodraeth ganolog mewn cof.

Mae’n cynnwys chwe blaenoriaeth ar gyfer y misoedd nesaf:

  •  Datblygu’r economi
  •  Sicrhau Cyngor modern a chryf
  •  Sicrhau bod pawb yn ddiogel
  •  Gwella addysg uwchradd
  •  Gwella’r amgylchedd
  •  Hyrwyddo iechyd a lles da

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Rydym ni rŵan yn mynd i ymgynghori gyda chi ynghylch y chwe maes yma i weld pa mor bwysig ydyn nhw i chi a sut y byddem yn eu cyflawni.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau yfory a bydd ar gael ar borth ymgynghori Eich Llais Wrecsam. Bydd copïau papur ar gael ar gais.

Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben byddwn yn casglu’r holl ymatebion ynghyd ac yn eu dadansoddi cyn eu cyflwyno i’r Cynghorwyr ym mis Medi.

Bydd yr ymateb wedyn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu Cynllun y Cyngor ar gyfer 20-22 a phennu ein cyllidebau.

Mae’ch barn yn bwysig

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hon yn ddogfen bwysig iawn ac yn un a fydd yn ein helpu ni i gyllidebu’n briodol i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau.

“Mae’n ystyried amrywiol anghenion ein preswylwyr, o’r ifanc i’r oedrannus, y diamddiffyn a’r rheiny gydag anghenion arbennig.

“O ystyried yr heriau ariannol parhaus sydd yn ein hwynebu, mae’n rhaid i ni fod yn realistig o ran yr hyn rydym ni’n gallu ei gyflawni a sicrhau bod ein cynlluniau yn gynaliadwy.”

Byddwn yn anfon neges i’ch atgoffa am ddyddiadau’r ymgynghoriad fel bod modd i chi ddweud eich dweud.

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN