Rydym ni rŵan wedi lansio ail ran ein Hymgynghoriad Cyhoeddus ynghylch Cyllideb 2021-22. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal o 20 Ionawr tan 5 Chwefror 2021.
Unwaith eto, mae angen gwneud penderfyniadau anodd ac mae arnom ni angen gwybod beth yw eich barn chi amdanyn nhw.
Yn ail ran Ymgynghoriad Penderfyniadau Anodd 2021-22 hoffem dderbyn eich sylwadau ar ddull Wrecsam ar gyfer pennu cyllideb 2021-22. Bydd eich adborth yn cael ei ystyried cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol ynghylch cyllideb 2021-22 ddechrau 2021.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Nôl ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020 gofynnwyd i chi am awgrymiadau er mwyn cwrdd â’r her ariannol sydd yn ein hwynebu yn 2021-22. Rydym ni wedi ystyried eich barn a rŵan bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r setliad a’r gyllideb dros dro ar gyfer 2021-22, yn ystod ail ran y broses ymgynghori (Ionawr 2021) mae arnom ni angen gwybod a oes gennych chi unrhyw sylw ar ddull y Cyngor ar gyfer pennu cyllideb 2021-22.
Llenwch yr arolwg ar-lein er mwyn i chi rannu’ch syniadau efo ni. Mae’n bwysig bod cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan… felly cofiwch sôn wrth eich teulu a’ch ffrindiau a’u hannog i ddweud eu dweud.
Os hoffech chi gopi papur o’r arolwg anfonwch e-bost i: telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 295478.
CANFOD Y FFEITHIAU