Bydd un o’n cynghorwyr yn teithio 2,000 milltir ar draws Ewrop mewn ymgyrch i godi arian ar gyfer elusen “hanfodol” yng Nghymru.
Bydd cwmni olew coginio lleol yn talu am ei gostau tanwydd.
Bydd y Cynghorydd Paul Pemberton yn teithio ar hyd llwybr 2,000 milltir o hyd o Rosllanerchrugog i Benidorm yn Sbaen, gan gystadlu yn erbyn mwy na 40 o gerbydau eraill ar hyd y ffordd.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Bydd yn teithio trwy Ffrainc, Yr Almaen, Swistir a’r Eidal cyn teithio i gyfeiriad Sbaen ar hyd y Côte d’Azur tuag at Benidorm trwy Barcelona a Valencia.
Bydd yn cyflawni’r cyfan mewn cerbyd Ford Mondeo o 2004.
Bydd yn ymgymryd â’r her elusennol i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru – un o’r elusennau y mae’r Maer, y Cynghorydd Andy Williams wedi’i gefnogi yn ystod ei gyfnod yn Faer.
Mae’r Cynghorydd Pemberton eisoes wedi derbyn mwy na £2,000 mewn rhoddion gan unigolion, grwpiau a chwmnïau yn Wrecsam.
Un o’r cwmnïau sydd wedi ei gefnogi ydi Fry Fresh Edible Oils Ltd sydd wedi’u lleoli ar Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall.
Mae’r cwmni wedi cynnig talu am gostau tanwydd y Cynghorydd Pemberton dros y siwrnai faith i Benidorm.
Dywedodd y Cynghorydd Pemberton: “Dwi’n arbennig o ddiolchgar i Fry Fresh am eu cynnig – rydym yn bwriadu croesi cyfandir gyda’r ymgyrch hwn, ac yn amlwg tanwydd yw un o’n prif gostau, felly mae cael noddwr yn talu am ein costau tanwydd yn ymrwymiad hawl iawn, ac mae’n golygu y gallwn roi hyd yn oed mwy o arian tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Williams: “Roeddwn i’n falch iawn o allu ymweld â Fry Fresh gyda’r Cynghorydd Pemberton i ddiolch iddynt am eu rhodd hael tuag at ei ymdrechion.
“Dewisais Ambiwlans Awyr Cymru fel un o’r elusennau i’w cefnogi yn ystod fy nghyfnod yn Faer gan eu bod yn darparu gwasanaeth hanfodol ochr yn ochr â’n gwasanaethau brys, ac ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd eu gwaith.
“Felly dwi’n hapus iawn gyda’r gefnogaeth y mae’r Cynghorydd Pemberton wedi’i gael ar gyfer ei ymgyrch codi arian ac fe hoffwn ddiolch i’r rhai sydd wedi rhoi arian hyd yn hyn.”
I gefnogi ymgyrch y Cynghorydd Pemberton, ewch i’w dudalen JustGiving.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB