Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymgyrch yr Heddlu i atal byrgleriaethau a gwneud Wrecsam yn ddiogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…
Fideo Pobl a lle
Ffrinj Wrecsam
Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ymgyrch yr Heddlu i atal byrgleriaethau a gwneud Wrecsam yn ddiogel
Pobl a lle

Ymgyrch yr Heddlu i atal byrgleriaethau a gwneud Wrecsam yn ddiogel

Diweddarwyd diwethaf: 2021/11/08 at 11:17 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Op Blue Instinct
RHANNU

Mae Ymgyrch Greddf Las Tîm Plismona Tref Wrecsam yn parhau gyda’r nod o atal preswylwyr rhag dioddef byrgleriaeth.

Mae meddwl y gallech ddioddef byrgleriaeth yn codi ofn ond gallwch atal hyn rhag digwydd drwy gymryd ychydig o gamau syml ond effeithiol:

  • Clowch eich drysau a’ch ffenestri hyd yn oed pan fyddwch yn y tŷ.
  • Peidiwch â gadael eich tŷ mewn tywyllwch, gadewch olau ymlaen neu defnyddiwch amserydd golau i roi’r argraff bod rhywun i mewn.
  • Sicrhewch nad oes modd gweld pethau gwerthfawr drwy’r ffenestri a pheidiwch â gadael eich allweddi yn agos at y drws ffrynt neu’r drws cefn.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Gall troseddau ar y trothwy ddigwydd ar sawl ffurf ac maent yn cael eu cyflawni gan droseddwyr sy’n targedu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Byddwch yn wyliadwrus bob amser ac os ydych yn ansicr, peidiwch ag agor y drws. Os ydych yn amau, cadwch nhw allan!

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Os ydych yn cael eich dal allan gadewch i’ch tîm plismona lleol wybod ar unwaith. Gallant helpu: Ffoniwch 101 neu rhowch wybod ar lein drwy fynd i www.northwales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/

Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.

Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw ffug fasnachwyr neu alwyr twyllodrus drwy ffonio Safonau Masnach Wrecsam ar 01978 298997 neu fynd i trading.standards@wrexham.gov.uk

Meddai Rhingyll Tîm Plismona Cymdogaeth Tref Wrecsam, Dave Smith: “Mae’r dyddiau’n byrhau felly mae’n bosibl y byddwch yn cyrraedd adref o’r gwaith ar ôl iddi dywyllu, ac mae tai tywyll yn denu troseddwyr.

“Mae ‘na lawer o bethau y gallwch eu gwneud yn cynnwys defnyddio amseryddion awtomatig neu synwyryddion symudiad ac os yn bosibl osod Teledu Cylch Cyfyng. Ceisiwch drefnu bod rhywun yn cymryd unrhyw barseli yr ydych yn eu disgwyl i’w tŷ fel nad ydynt yn cael eu gadael allan am unrhyw hyd.

“Mi ddylem ni i gyd fod yn wyliadwrus a chadw llygad am sgamiau a galwyr di-wahoddiad a’u riportio cyn gynted â phosibl.

“Byddwn allan yn y gymuned dros y misoedd i ddod ac yn barod iawn i gynnig cyngor am sut i gadw’n ddiogel dros fisoedd y gaeaf.”

Grwpiau Gwarchod y Gymdogaeth

Fe’ch anogir hefyd i edrych ar ôl eich gilydd drwy gofrestru ar gyfer y Cynllun Rhybudd Cymunedol ac ystyried ymuno â, neu ffurfio Grŵp Gwarchod y Gymdogaeth.  Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud i fyrgleriaid feddwl ddwywaith am fynd i ardaloedd sy’n cymryd camau i’w cadw nhw allan.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwybodaeth Y wybodaeth ddiweddaraf am Kronospan
Erthygl nesaf Flood Rydym yn barod am y gaeaf 2021 – 2022

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…
Fideo Pobl a lle Gorffennaf 18, 2025
Ffrinj Wrecsam
Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 18, 2025
start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg Gorffennaf 16, 2025
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 16, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
FideoPobl a lle

GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…

Gorffennaf 18, 2025
Ffrinj Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam

Gorffennaf 18, 2025
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Gorffennaf 16, 2025
good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English