Clod mawr i Feithrinfa Ddydd Mother Goose ym Mhenley, sydd wedi cael dwy wobr wych gan neb llai na Llywodraeth Cymru.
Mae ei hymrwymiad i sicrhau iechyd ei rhai bach, gan gynnwys maetheg, iechyd y geg, gweithgarwch corfforol, chwarae, iechyd meddyliol ac emosiynol, lles a pherthnasau wedi ennill gwobr Cynllun Iechyd a Chynaliadwyedd Cyn Ysgol iddi.
Mae hi hefyd wedi ennill gwobr Tiny Tums i gydnabod y bwyd y mae’n ei baratoi a’i weini.
Mae gan y feithrinfa fan awyr agored gwych i blant chwarae a dysgu yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae aelod o’n staff, Nerys Bennion, sef y Swyddog Cyn-Ysgolion Iach, wedi bod yno yn helpu ar hyd y daith i gyflawni’r wobr hon.
“iechyd a lles yn flaenllaw”
Dywedodd Nerys Bennion, Swyddog Cyn-Ysgolion Iach:
“Mae Meithrinfa Ddydd Mother Goose wedi dangos bod iechyd a lles cyffredinol plant a staff yn flaenllaw iawn yn y lleoliad. Mae amgylchedd y lleoliad yn hyfryd y tu mewn a’r tu allan. Mae’n croesawu pob menter sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar arfer yn y feithrinfa a gwneud y profiad i staff a phlant yn un arbennig iawn. Rwy’n siŵr y bydd yn parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn gofal yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg:
“Llongyfarchiadau i bob un sy’n gysylltiedig â’r wobr haeddiannol hon. Da iawn bawb.”
Meddai Michelle Jones, rheolwr Mother Goose:
“Hoffem ddiolch i Nerys am ei chefnogaeth gyda’r cynllun hwn. Rydym yn falch o fod wedi cwblhau’r fenter hon sy’n cefnogi ein harfer da yn Meithrinfa Mother Goose.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI