A hoffech chi gael swydd hollbwysig sy’n helpu i achub bywydau? Efallai mai hon fydd eich swydd bwysicaf erioed…
Os ydych chi’n chwilio am swydd werthfawr, gallai ymuno â’r gwasanaeth olrhain cysylltiadau fod yn berffaith i chi. Byddai’r swydd hon yn gyfle i weithio a helpu yn y frwydr yn erbyn Covid-19 a chwarae rhan hanfodol yn yr ymgais i achub bywydau.
Mae nifer o swyddi gwag ar hyn o bryd gan gynnwys Olrheinwyr Cyswllt ac Ymgynghorwyr Cyswllt fel rhan o Wasanaeth Olrhain Cyswllt Gogledd Cymru ac mae arnom ni angen i bobl ddechrau ar unwaith. Felly, cysylltwch heddiw.
Ymgynghorwyr Cysylltiadau – EWCH Â FI AT Y SWYDDI
Swyddogion Olrhain Cysylltiadau – EWCH Â FI AT Y SWYDDI
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Mae prif nodweddion a chyfrifoldebau’r rolau yn cynnwys:
• Nodi a dilyn cysylltiadau a darparu cyngor iechyd y cyhoedd (ble bo’n briodol)
• Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi’n amserol ac yn gywir o’r cyfweliadau hynny gan ddefnyddio’r systemau a ddarparwyd.
• Gallu defnyddio Microsoft Office, Word ac Excel
• Gallu deall a dilyn sgriptiau a threfniadau gweithredu safonol
Rydym yn chwilio am bobl:
• Brwdfrydig, cadarnhaol sy’n hawdd mynd atynt
• Angerddol am ragori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid a darparu profiad rhagorol i’r cwsmer
• Cyfathrebwyr gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar
• Gallu amldasgio, blaenoriaethu a rheoli amser yn effeithiol
Mae’r rolau hanfodol hyn wedi eu datblygu fel rhan o raglen Profi, Olrhain a Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru a bydd yn caniatáu i chi chwarae eich rhan ymhellach wrth drechu’r pandemig.
Mae swyddi gwag rhan amser a llawn amser ar gael, ac mae’r oriau’n hyblyg, gan gynnwys gyda’r nosau ac ar benwythnosau.
Meddwl y gallech ymgymryd ag un o’r swyddi pwysig hyn?
Fel rhan o’n hymrwymiad i ddatblygu gweithlu dwyieithog, croesawir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â’r rheiny â sgiliau ieithyddol ychwanegol. Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol i’r sawl sy’n gweithio gyda chydweithwyr yn Ynys Môn a Gwynedd.
I ddarganfod mwy am y swyddi hyn, cliciwch ar y ddolen isod.
Ond brysiwch, mae’r dyddiad cau ar 15 Ionawr.
Ymgynghorwyr Cysylltiadau – EWCH Â FI AT Y SWYDDI
Swyddogion Olrhain Cysylltiadau – EWCH Â FI AT Y SWYDDI