* Ar gyfer lleoliadau penodol isod, byddwn yn defnyddio cod post – mae hwn yr un fath â Chod Zip.
CYRRAEDD YMA
Cludiant
Lleoliad yr Orsaf Rheilffordd – LL11 2AA
Ewch i Arriva Trains Wales Tickets | now Transport for Wales | Trainline (thetrainline.com) neu Lawr-lwythwch yr ap ‘the trainline’ ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf a phrynu tocynnau.
Lleoliad Gorsaf Fysiau – LL11 1LF
I gael gwybodaeth am docynnau a theithio ewch i Bus Travel in Wrexham | Tickets & Times | Arriva Bus
Tacsi – ARCHEBWCH O FLAEN LLAW!!! Ein prif gwmni tacsi yw Hackney Cabs sydd wedi’i leoli ar King Street, ochr draw i’r orsaf fysiau (LL11 1LF) Mae rhestr o gwmniau canol y ddinas ar gael ar waelod y ddogfen hon.
Meysydd parcio – Dolen i fap a rhestr o feysydd parcio yn Wrecsam.
UBER/BOLT- Nid yw’r gwasanaethau hyn yn gweithredu fel arfer yn Wrecsam.
Ble i fwyta
Mae hwn yn gwestiwn anodd gan fod gymaint o ddewis – felly rydym yn ceisio cynnwys ardaloedd i fwyta yn hytrach na’r ffefrynnau!
Bank Street – LL11 1AH
Stryd hanesyddol hen ffasiwn yn llawn busnesau annibynnol, gallwch ymweld â Marrubis (y caffi hynaf yn Wrecsam), cael coffi neu Sushi yma!
Stryd Fawr LL13 8LP
Canolbwynt bywyd nos yn Wrecsam, mae’r stryd fawr yn cynnwys nifer o fwytai a bariau yn ogystal â nifer o leoliadau bwydydd brys.
Tŷ Pawb (ar gau ar ddydd Sul)- LL13 8BB
Bar llawn, bwyd figan ar gael, pastai gartref, cyri, pwdinau, adenydd cyw iâr a llawer mwy gan ein masnachwyr bwyd annibynnol.
Dôl yr Eryrod – Ll13 8DG
Ystod o fwytai cadwyn sefydledig.
Dim ond ychydig o awgrymiadau o lefydd i fwyta ydi’r rhain. Wrth gerdded o amgylch Canol y Ddinas rydych yn debygol o ddod ar draws llefydd gwych i fwyta gan gynnwys bwyd Pwyleg, Portiwgeaidd, Indiaidd a Chymreig.
Ble i yfed
Cwestiwn anodd, faint o amser sydd gennych chi?
Mae rhywbeth at ddant pawb. Mae rhai tafarndai yn rhai ‘yfed’ ac mae eraill yn canolbwyntio ar gynnig bwyd ac yn gyffredinol yn addas i deuluoedd. Mae rhai yn dafarndai cadwyn (bragdai mawr yn eu perchen) ac eraill yn cael eu rhedeg a than berchnogaeth annibynnol.
Os nad ydych yn sicr – gofynnwch i rywun lleol ac rydym yn sicr y cewch ddigon o awgrymiadau o lefydd y gallwch ymweld â hwy.
Pethau i’w Gweld
Tŷ Pawb – LL13 8BB (Gwefan)
Mae Tŷ Pawb yn ganolfan amlbwrpas. Mae’n gweithredu fel lleoliad i ddigwyddiadau celf, diwylliannol a chymunedol, yn ogystal â marchnad ac oriel gelf – hefyd y llynedd roedd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Amgueddfa’r Flwyddyn’.
Eglwys San Silyn – LL13 8LS
Mae’r tŵr yn San Silyn un o 7 o ryfeddodau Cymru. Adnabyddir yr eglwys fel un o enghreifftiau gorau o bensaer eglwysig yng Nghymru.
Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam (ar gau ar ddydd Sul)
Siop wybodaeth un stop i ymwelwyr Wrecsam. Dod o hyd i rywle i fynd, beth i’w wneud a chael cofroddau gwych Wrecsam a Chymru.
Amgueddfa Wrecsam (Ar gau ar ddydd Sul) – LL11 1RB
Safle dyfodol amgueddfa Pêl-droed Cymru a chartref Caffi’r Cowt! Mae mynediad am ddim felly beth am alw heibio a chael gwybod mwy am hanes diddorol Wrecsam? Mae dwy arddangosfa pêl-droed ar hyn o bryd: Chwedlau’r Crysau: Crys wrth Grys – Hanes Pêl-droed Cymru ac a Dreigiau Rhyfelwyr, yn cynnwys detholiad o ffotograffau a dynnwyd gan ffotograffydd o Dde Cymru, Nigel Whitbread, yn ystod Cwpan y Byd Digartref 2019, a gynhaliwyd ym Mharc Bute, Caerdydd.
Bragdy Wrexham Lager – LL13 8DB
Yn cuddio yng Nghilgant San Siôr, mae bragdy Wrexham Lager yn lle caiff rhai o ddiodydd fwyaf enwog Wrecsam eu gwneud! Gallwch ymweld â siop y bragdy i weld nwyddau a chyfle i flasu cwrw ffres sydd newydd ei fragu!
Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth – LL13 8AE
Cartref Gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru, yn llawn i’r ymylon gyda gwyddoniaeth, archwilio a hwyl. Perffaith ar gyfer pob oedran. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys taith i Xplore! yn ystod eich ymweliad nesaf â Wrecsam.
Mae’r siop a caffi Xplore! ar agor 7 diwrnod yr wythnos 9:30-16:30.
Mae’r Ganolfan Wyddoniaeth ar agor bob penwythnos, gŵyl y banc a gŵyl ysgol Wrecsam 9:30-16:30
Cartref Gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru, yn llawn i’r ymylon gyda gwyddoniaeth, archwilio a hwyl. Perffaith ar gyfer pob oedran. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys taith i Xplore! yn ystod eich ymweliad nesaf â Wrecsam.
Mae’r siop a caffi Xplore! ar agor 7 diwrnod yr wythnos 9:30-16:30.
Mae’r Ganolfan Wyddoniaeth ar agor bob penwythnos, gŵyl y banc a gŵyl ysgol Wrecsam 9:30-16:30
Murlun Paul Mullin – LL13 8LW wedi greu gan artist lleol Liam Stokes – Massey – Noddi gan The Fat Boar ac Wal Goch Festival ac yn codi arian tuag at elusen Dy Le Di – Your Space
Murlun Croeso i Wrecsam – LL11 2HY
Os ydych yma am ychydig o ddyddiau neu’n bwriadu dod yn ôl i Wrecsam, ewch ar ychydig o’n hoff wefannau i gael ysbrydoliaeth:
Marchnadoedd Wrecsam
Yn ogystal â’r stolion marchnad yn Tŷ Pawb, mae yna gaffi yn Farchnad y Cigyddion, yn ogystal â’n Marchnad dydd Llun ar Sgwâr y Frenhines -mae masnachwyr hefyd wedi’u leoli yn unedau 5,7,9 Sgwâr y Frenhines. Felly pigwch mewn am fargen!
Meddygol
Adran Ddamweiniau ac Argyfwng Ysbyty Maelor – LL13 7TD
Rhif gwasanaethau brys – 112 (neu 999)
Bydd 112 yn gweithio i unrhyw ffôn
101 Rhif yr heddlu (dim argyfwng)
111 Rhif dim argyfwng i’r GIG, os oes gennych broblem feddygol sydd ddim yn argyfwng ac nad ydych yn sicr beth i’w wneud).
Cymraeg Defnyddiol
Yn ystod eich ymweliad yn Wrecsam, rydych yn debygol o glywed nifer o ieithoedd. Cymraeg a Saesneg yw iaith swyddogol Cymru. Mae’r mwyafrif o bobl yn deall Saesneg, ond rydym yn hoffi annog pawb i ddysgu a siarad ychydig o Gymraeg. Dyma ychydig o eiriau/ ymadroddion Cymraeg:
“Bore da” – “Good Morning”
“Diolch” –“Thank you”
“Gwych” – “Excellent”
“Ga’i ddau gwrw” – “Can I have 2 beers”
“Dwi’n Caru Wrecsam” – “I love Wrexham”
Arian – Rydym yn defnyddio’r £ sterling, fodd bynnag mae’r mwyafrif o lefydd yn derbyn taliadau cerdyn yn ogystal ag arian parod.
Dyma rai o lefydd yng Nghanol Dinas Wrecsam lle allwch gyfnewid arian:
Eurochange – Dôl yr Eryrod – Ll13 8DG
Cyfnewid Arian Asda – LL13 8HL
Arian Teithio’r Swyddfa Bost -LL11 1BE
Sainsbury’s – LL11 2BA
Tesco – LL13 8HF
Dŵr tap – Mae’r dŵr tap yn ddiogel i’w yfed, i ddweud y gwir mae ansawdd ein dŵr yfed yn un o’r prif resymau bod gennym gymaint o fragdai yn Wrecsam!
Apollo
18 Charles Street, Wrecsam
Rhif ffôn: 01978 366100
Atax
14 Abbot Street, Wrecsam
Rhif ffôn: 01978 262380
Cresta Cabs
16 Cilgant San Siôr, Wrecsam
Rhif ffôn: 01978 353500
Gold Star
2 Brook Street, Wrecsam
Rhif ffôn: 01978 353333
J.J. Cars
5A Abbot Street, Wrecsam
Rhif ffôn: 01978 351234
Regal Taxis
15a King Street, Wrecsam
Rhif ffôn: 01978 362888
Town Cars
Gorsaf Reilffordd Gyffredinol Wrecsam
Rhif ffôn: 01978 313131
Wrexham / Prestige
Yale House, 46 Brook Street, Wrecsam
Rhif ffôn: 01978 357777