Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymweliad â Phrifysgol Caergrawnt yn ysbrydoli disgyblion Wrecsam i gyrraedd eu nod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ymweliad â Phrifysgol Caergrawnt yn ysbrydoli disgyblion Wrecsam i gyrraedd eu nod
Busnes ac addysg

Ymweliad â Phrifysgol Caergrawnt yn ysbrydoli disgyblion Wrecsam i gyrraedd eu nod

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 31, 2020 10:24 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Students Ysgol Clywedog Cambridge
Disgyblion Ysgol Clywedog yng Ngholeg Magdalene O'r chwith i'r dde: Laura Williams, Emily King, Maisie Hughes, Jack McNeil a Catrin George.
RHANNU

Bu i Esther Abelian, myfyrwraig feddygaeth yn un o brifysgolion mwyaf clodfawr y DU, groesawu pump o ddisgyblion MAT Blwyddyn 11 Ysgol Clywedog i Brifysgol Caergrawnt yn ddiweddar.

Cynnwys
  • “Byd cyfan gwbl newydd i mi”
  • “Gwnaeth i mi sylweddoli sut beth ydi bywyd prifysgol”

Mae Esther, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Clywedog, yn ei blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Magdalene, Prifysgol Caergrawnt, a dywedodd wrth yr ymwelwyr o’i chyn ysgol uwchradd y dylent anelu am y brig wrth wneud ceisiadau i brifysgolion.

Cafodd y pum disgybl o Glywedog oll eu hysbrydoli ar ôl cael taith o amgylch y gwahanol adrannau a cholegau.

Ysgol
Y myfyrwyr gyda Esther Abelian. O’r chwith i’r dde: Emily King, Laura Williams, Jack McNeil, Maisie Hughes a Catrin George.

“Byd cyfan gwbl newydd i mi”

Meddai Jack McNeil: “Dangosodd yr ymweliad â Chaergrawnt fyd cyfan gwbl newydd i mi. Dangosodd i mi sut i gyrraedd fy nodau a pha mor fawr y gall y nodau hynny fod. Fe gefais i gipolwg ar y gwaith caled sydd ynghlwm ag astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt, ond hefyd ar yr holl hwyl a llwyddiant y mae’n ei gynnig.”

Roedd yr ymweliad yn rhan o ddigwyddiad wedi’i drefnu i fyfyrwyr ysgolion ledled Gogledd Cymru, i roi gwybodaeth iddynt am ofynion mynediad ac astudio yn y brifysgol. Cynghorwyd y myfyrwyr hefyd ar y pynciau Safon Uwch y byddai’n rhaid iddynt eu hastudio er mwyn cael dilyn cyrsiau gradd penodol.

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

I helpu’r myfyrwyr gychwyn meddwl fel myfyrwyr prifysgol, cawsant gymryd rhan mewn gweithdy a gynhaliwyd yng Ngholeg Magdalene, oedd yn cynnwys gweithio mewn grwpiau ar amrywiaeth o gwestiynau a roddwyd iddynt.

Y nod oedd dangos i’r myfyrwyr sut y byddai prifysgol am iddynt fynd i’r afael â’r cwestiynau a meddwl. Wedyn, aethpwyd â’r myfyrwyr mewn grwpiau ar daith o amgylch y brifysgol, oedd yn cynnwys y neuadd ginio, y llyfrgell a’r tiroedd amgylchynol.

“Gwnaeth i mi sylweddoli sut beth ydi bywyd prifysgol”

Meddai Laura Williams: “Rydw i’n ystyried gyrfa mewn meddygaeth. Gwnaeth y trip i Brifysgol Caergrawnt i mi sylweddoli sut beth ydi bywyd prifysgol. Hefyd, fe fyddwn i rŵan yn ystyried gwneud cais i Gaergrawnt yn ogystal â phrifysgolion eraill.”

Aeth Mrs Kane, arweinydd pwnc ABCh a gyrfaoedd, gyda’r myfyrwyr ar yr ymweliad. Dywedodd: “Roedd yn ddiwrnod gwych a roddodd gipolwg drylwyr o’r brifysgol i’r myfyrwyr hyn sy’n llawn cymhelliant.

“Gwnaed yr ymweliad yn fwy arbennig byth gan mai Esther oedd yn eu hebrwng o gwmpas. Fe ddangosodd hi’r adran fioleg ac adran y gyfraith iddyn nhw, gan fod gan un o’r myfyrwyr ddiddordeb mewn meddygaeth ac un arall yn y gyfraith.

“Llwyddodd Esther i ateb eu cwestiynau a rhannu ei phrofiad ei hun o fywyd fel myfyrwraig yn y brifysgol, sy’n safbwynt amhrisiadwy. Fel un o gyn-ddisgyblion Ysgol Clywedog, mae hi’n esiampl ardderchog iddyn nhw ac mae wedi’u hannog nhw i fod yn hyderus ac anelu’n uchel.

“Mae’r myfyrwyr hyn bellach yn llawer mwy ymwybodol o’r hyn y gallant ei gyflawni, ac yn sylweddoli bod prifysgol fawreddog fel Caergrawnt o fewn eu cyrraedd.”

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Text scam warning Mae negeseuon testun sy’n cynnig ad-daliad Treth y Cyngor yn dwyll!
Erthygl nesaf WFIS Ydych chi’n ddarpar riant neu’n rhiant newydd? Peidiwch â methu allan ar gymorth a chyngor gwerthfawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English