Rŵan, fwy nac erioed, gall fod yn anodd cael ffordd i mewn i’r yrfa o’ch dewis.
Hyd yn oed gyda’r sgiliau a’r hyfforddiant cywir, nid yw bob amser yn hawdd dod o hyd i gyfle a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu, tyfu, dysgu gan eraill, a’ch helpu chi i gyflawni eich potensial.
Dyma’r cyfle hwnnw
Mae gan ein gwasanaeth TGCh agoriad cyffrous i rywun ddatblygu eu sgiliau TGCh mewn sefydliad mawr ac amrywiol.
Rydym yn chwilio am Swyddog Technegol, llawn amser, ac mae’n gam cyntaf delfrydol ar yr ysgol yn y maes TGCh.
Mae ein tîm o arbenigwyr yn cefnogi ac yn rheoli dyfeisiau, gan gynnwys gliniaduron, dyfeisiau symudol, ac argraffwyr ar gyfer dros 2,400 o bobl.
Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd ddarparu cefnogaeth wrth ymyl desg ac o bell i ddefnyddwyr o bob gallu. Mae’n hynod bwysig bod gennych sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog, yn ogystal â hunan-gymhelliant a’r gallu i weithio dan bwysau.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Yn ogystal â phrofiad o reoli dyfeisiau defnyddwyr terfynol mewn amgylchedd menter, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig dros ddysgu am TGCh a chadw at safonau.
Ai dyma’r cyfle rydych wedi bod yn chwilio amdano? Os felly, hoffem glywed gennych.
Cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith
Os ydych yn chwilio am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae digon o resymau dros ymgeisio.
Er enghraifft, mae ein cynllun gweithio’n hyblyg yn golygu y gallwch symud oddi wrth y drefn 9 tan 5 a gorffen yn gynnar un diwrnod ac yn hwyrach ar ddiwrnod arall os oes angen.
Byddwch hefyd yn cael gwyliau hael, mynediad i gynllun pensiwn a buddiannau gweithwyr eraill.
I weld y swydd ddisgrifiad llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm isod.
Y dyddiad cau yw 8 Tachwedd.
EWCH Â FI AT Y SWYDD