Os ydych chi’n rhentu eich cartref – neu’n ystyried rhentu – gofynnwch i’r landlord ddangos y Dystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) ar gyfer yr eiddo i chi.
Bydd TPY yn dweud wrthych pa mor effeithlon yw’r adeilad o ran ynni, a gallai rhoi syniad i chi o beth fydd y costau gwresogi.
Yn ôl y gyfraith, mae’r mwyafrif o eiddo yng Nghymru angen TPY cyn iddynt gael eu rhentu.
Yr unig eithriadau yw fflatiau un ystafell neu osod ystafell a rhannu cegin, toiled neu ystafell ymolchi, ac ystafelloedd mewn neuaddau preswyl neu hosteli.
Mae sgoriau TPY yn amrywio o ‘A’ i ‘G’ – ‘A’ yw’r sgôr gorau, a ‘G’ yw’r gwaethaf.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Allech chi ymgeisio am grant?
Y Cynghorydd David A Bithell yw Aelod Arweiniol Tai Cyngor Wrecsam, ac mae’n gadeirydd gweithgor trawsbleidiol a sefydlwyd i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.
Dywedodd:
“Os ydych chi’n rhentu neu’n ystyried rhentu, mae hi werth gofyn i’r landlord am gopi o’r TPY.
“Mae costau ynni sy’n codi yn ei gwneud hi’n fwy drud i gynhesu cartref, ond gallai byw mewn eiddo sydd yn effeithlon o ran ynni helpu i gadw eich biliau tanwydd i lawr.
“Oni bai bod eiddo wedi’i eithrio, fe ddylai eiddo sy’n cael ei rentu fod â sgôr o leiaf ‘E’. Os yw’r sgôr yn is, fe allai eich landlord fod yn torri’r gyfraith.
“Fel tenant, efallai y bydd modd i chi wella’r adeilad drwy ymgeisio am grant effeithlonrwydd ynni, neu drwy annog eich landlord i ymgeisio.
“Gofynnwch am sgwrs i weld os allwch chi gydweithio.”
Gallwch ddysgu mwy am Dystysgrifau Perfformiad Ynni a grantiau effeithlonrwydd ynni ar wefan Cyngor Wrecsam.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI