Mae cystadleuaeth Cwpan y Byd 2018 ar fin cychwyn. Mae’r gic gyntaf yn dechrau am 4pm, dydd Iau 14 Mehefin. Efallai eich bod yn bwriadu mynd i Wrecsam i wylio’r pêl-droed – sy’n wych!
Mae yna ddewis da iawn o fariau a chlybiau yn Wrecsam i wylio’r gemau. Yn syml, rydym eisiau gwneud yn siŵr fod pawb sy’n mynd i’r dref yn cael amser da ac yn ddiogel.
Os ydych chi’n mynd amdani’n rhy hegar ac yn yfed gormod o alcohol, fe allech droi noson dda yn un drwg. Fe allech chi orfod mynd adref yn fuan, mynd i drafferth neu frifo.
Rydym hefyd yn annog pobl i dorri lawr ar faint maent yn ei yfed adref cyn mynd allan – ‘yfed adref gyntaf’ neu ‘yfed cyn mynd allan’ – yn ogystal â faint maent yn yfed pan fyddant yn ymweld â bariau, tafarndai a chlybiau yn y dref.
Mae digon o bobl yn mwynhau mynd allan a chael diod neu ddau, ond os na fyddwch yn sylwi pan fyddwch wedi cael digon, gall ambell ddiod arwain at ormod, efallai na fyddwch yn gallu gwneud penderfyniad ac rydych yn fwy tebyg o ymddwyn yn wael neu gael eich anafu.
“Lleihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym eisiau annog pobl i ddod i Wrecsam a chefnogi’r economi min nos yn ystod Cwpan y Byd. Serch hynny, rydym eisiau atgoffa pobl i feddwl ychydig cyn iddynt yfed gormod. Mae hyn yn ymwneud â lleihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus fel yr heddlu, staff ambiwlans ac ysbytai ar adeg pan maent eisoes o dan bwysau mawr.
“Yfwch ychydig llai a mwynhewch wylio’r pêl-droed gyda ffrindiau”
Meddai’r Arolygydd Paul Wycherley, “Mae Wrecsam yn lle gwych i wylio’r pêl-droed ac rydym eisiau annog pobl i gael amser da yn gwylio’r gemau yn y tafarndai a chlybiau yma. Nid yw’r ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy wedi’i anelu at y sawl sy’n yfed yn gyfrifol – mae yno i helpu i ddod o hyd i’r lleiafrif o bobl sydd wedi cael gormod o alcohol ac y gallent fod yn berygl i’w hunain neu i bobl eraill.
“Yfwch ychydig llai a mwynhewch wylio’r pêl-droed gyda ffrindiau. Fel arall, gallech ddifetha eu noson allan nhw hefyd os ydynt yn gorfod mynd â chi adre’n fuan.”
Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y Bwrdd Cynllunio Ardal, Prifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria i weithredu’r ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy.
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL