Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau dau gynllun golau yn y sir sy’n defnyddio lanternau sy’n defnyddio ynni solar a gwynt – y rhai cyntaf o’r fath yn Wrecsam.
Mae’r prosiect cyntaf ar hyd llwybr beicio a cherdded ym Mhenycae oedd heb unrhyw fath o olau oherwydd problemau cael mynediad at gyflenwad ynni yn yr ardal. Ariannwyd y cynllun gan Grant Senedd Cymru ar gyfer Cludiant Cynaliadwy Lleol mewn Ymateb i Covid, ac mae’n golygu llawer i ddefnyddwyr lleol.
Meddai’r Cynghorydd John Phillips, yr aelod lleol: “Mae’r golau wedi cael croeso mawr gan drigolion, ac mae’n hwb mawr i feicwyr a phreswylwyr fel ei gilydd. Mae’r ardal erbyn hyn yn hawdd ei defnyddio a gallwn bylu’r golau o bell yn ystod cyfnodau tywyllaf y nos.
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a chwaraeodd ran yn y gwaith o sicrhau bod y prosiect yn mynd yn ei flaen er budd trigolion Penycae.”
Yn yr ail brosiect, a ariannwyd gan Gyngor Cymuned Esclus, gwnaed gwelliannau i’r golau mewn ardal lle roedd anawsterau cael mynediad at gyflenwad ynni yn rhwystro golau confensiynol rhag cael ei osod ger troedffordd.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er nad yw’r rhain yn brosiectau mawr, maent yn cymryd camau pwysig ar y daith o ddefnyddio technolegau newydd cynaliadwy er mwyn darparu gwelliannau i drigolion.
“Rwy’n gobeithio y gallwn adeiladu ar y ddau brosiect hyn ac y bydd y dechnoleg a ddefnyddir o fudd i’r amgylchedd ac yn help inni leihau ein hôl troed carbon ymhellach.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN