Ar ddiwrnod o haf ym mis Awst 1946, glaniodd tri ysbyty milwrol Pwylaidd, rhan o Ail Gorfflu Gwlad Pwyl (‘Byddin Anders’) ym mhorthladd Lerpwl. Ar ôl arhosiad byr mewn gwersyll teithiol yn Swydd Gaerhirfryn, neilltuwyd tri ysbyty milwrol Americanaidd gwag i’r meddygon a’r nyrsys mewn cefn gwlad rhwng Wrecsam a Whitchurch ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Datblygodd pentref Llannerch Banna a thiroedd Parc Is-coed i fod yn ‘wasanaeth iechyd gwladol’ i gyn-filwyr lluoedd arfog Gwlad Pwyl a’u teuluoedd. Dros y ddegawd nesaf, byddai’r tri ysbyty yn cael eu crynhoi ar un safle yn Llannerch Banna, ac o amgylch yr ysbyty tyfodd cymuned unigryw – darn bach o Wlad Pwyl y cyfnod cyn y rhyfel wedi ei blannu yng Nghymru wedi’r rhyfel.
Caeodd yr ysbyty gwreiddiol yn 2002 a chyflwynwyd rhai eitemau i Amgueddfa Wrecsam i’w cadw’n ddiogel. Ar 18 Mawrth bydd arddangosfa’n agor yn Amgueddfa Wrecsam yn benodol i adrodd hanes Pwyliaid Llannerch Banna a’r Ysbyty Pwylaidd.
Mae staff yr amgueddfa’n gweithio gyda chyn-drigolion a gwirfoddolwyr i greu arddangosfa, a fydd yn defnyddio ffilm, Hanes llafar, lluniau ac arteffactau i gyflwyno hanesion anhygoel y dynion a’r merched a gyrhaeddodd ym 1946 a chreu cartref i’w hunain yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Mae Amgueddfa Wrecsam ar Stryt y Rhaglaw yng nghanol Wrecsam. Mae Amgueddfa Wrecsam ar agor o ddydd Llun – dydd Gwener 10am tan 5pm a dydd Sadwrn 11am tan 4pm. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01978 297 460 neu ewch i dudalennau Facebook a twitter yr amgueddfa.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN