Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol Clywedog yn ddosbarth busnes
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgol Clywedog yn ddosbarth busnes
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Ysgol Clywedog yn ddosbarth busnes

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 8, 2018 1:37 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ysgol Clywedog yn ddosbarth busnes
RHANNU

NYTH Cymru, Nwy Prydain ac Ysgol Clywedog… nid enwau yr ydych yn disgwyl eu gweld gyda’i gilydd.

Ond, maent wedi cyfuno fel rhan o’r rhaglen Dosbarth Busnes, sy’n gweithio er mwyn rhoi’r cyfleoedd bywyd gorau i bobl ifanc.

Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i ysgolion weithio gyda busnesau i sicrhau bod y cwricwlwm maent yn ei ddarparu a’r ffordd y cânt eu rhedeg yn rhoi’r cyfle gorau i ddisgyblion ddeall a phrofi’r byd busnes a rhoi sgiliau iddynt a fydd yn effeithio’n gadarnhaol ar eu dyfodol.

I wneud hyn, maent yn defnyddio’r ‘Pedwar Piler’ – pedwar maes gwahanol sy’n golygu bod disgyblion a staff yn cael y mwyaf ohono.

Arweinyddiaeth a llywodraethu – dyma’r piler sy’n rhoi cyfle i’r ysgol wneud y mwyaf o gynllunio busnes a datblygu sgiliau newydd. Gall arweinwyr busnes eistedd ar fwrdd llywodraethwyr yr ysgol a rhannu sesiynau hyfforddi a dulliau rheoli.

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Y cwricwlwm – mae’r piler hwn yn edrych ar gynyddu cyflawniad gyda chefnogaeth ar draws nifer o bynciau yn cynnwys rhifedd, llythrennedd, TGCh, Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a Bagloriaeth Cymru. Er enghraifft, os mai’r nod yw cynyddu’r nifer o ferched sy’n astudio pynciau STEM ar lefel TGAU a thu hwnt, gallent wneud prosiectau i ddangos sut y byddai’r pynciau hynny’n berthnasol i’r byd go iawn, tu allan i’r ysgol.

Menter a chyflogadwyedd – mae’r cam hwn yn cynnig cefnogaeth i ddisgyblion fel eu bod yn barod ar gyfer y gweithle. Gall y problemau sydd angen mynd i’r afael a nhw gynnwys, diffyg dyheadau neu fylchau mewn sgiliau allweddol megis datrys problemau, cyfathrebu neu arweinyddiaeth. Bydd y rhaglen hon yn edrych ar ddarparu lleoliadau gwaith, mentora grwpiau o ddisgyblion penodol, gweithredu fel modelau rôl a chynnal gweithdai a heriau i wella sgiliau cyflogadwyedd.

Materion ehangach – Yn olaf, bydd y busnes a’r ysgol yn cyd-weithio ar unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i’r ysgol. Gall hyn amrywio o bresenoldeb, ennyn diddordeb rhieni i ddiwylliant ysmygu. Gall gefnogaeth ddod o fynychu nosweithiau rhieni neu ddiwrnodau pontio ysgolion cynradd, neu ddarparu gweithdai ar iechyd a lles.

Ar y cyfan, mae’r rhaglen hwn yn gweithio gyda’r ysgol i fodloni anghenion penodol disgyblion, gwella eu dealltwriaeth o’r byd gwaith a’u hymwybyddiaeth o ddewisiadau gyrfaoedd, a gwella eu sgiliau cyflogadwyedd.

Dywedodd y Pennaeth Matthew Vickery, ‘Rydym yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn ac o gyd-weithio gyda NYTH Cymru a Nwy Prydain.  Rydym yn cynllunio’r digwyddiadau cyntaf yn barod ar gyfer eleni, ac yn edrych ymlaen at y bartneriaeth a’r cyfleoedd sy’n deillio ohoni.’

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling Tips Facts Wrexham Council Wedi methu’r rhain? 7 ffeithiau ailgylchu am Wrecsam #2
Erthygl nesaf Newidiadau i Wasanaethau i Unigolion sydd ag Anableddau Newidiadau i Wasanaethau i Unigolion sydd ag Anableddau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English