Bod dydd yn ystod yr wythnos dwethaf, rydym wedi bod yn cyhoeddi ffaith ailgylchu ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Rhag ofn eich bod wedi eu methu, dyma drosolwg sydyn i chi…
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Ffaith 1: Fe ailgylchodd preswylwyr Wrecsam dros 640 tunnell o ganiau y llynedd.
Ffaith 2: Ar hyn o bryd nid oes modd ailgylchu pecynnau creision, bagiau bara na phapurau melysion. Gosodwch y rhain yn eich bag du/gwastraff bin os gwelwch yn dda.
Ffaith 3: Mae modd ailgylchu caniau dur 100% a gallant gael eu hailgylchu dro ar ôl tro. Gallant hyd yn oed gael eu troi’n feiciau.
Ffaith 4: Llwyddodd pobl ar draws Wrecsam i gyrraedd cyfradd ailgylchu, compostio ac ailddefnyddio o 65.44% ar gyfer 2017/18.
Ffeithiau am ailgylchu: Llwyddodd pobl ar draws Wrecsam i gyrraedd cyfradd ailgylchu, compostio ac ailddefnyddio o 65.44% ar gyfer 2017/18. #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/dYd3nGJUnb
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) October 4, 2018
Ffaith 5: Gellir ailgylchu bylbiau golau sy’n arbed ynni yn ein holl Ganolfannau Ailgylchu.
Ffaith 6: Mae jariau gwydr a photeli’n cymryd hyd at 2 filiwn o flynyddoedd i ddadelfennu.
Ffaith 7: Mae’r rhan fwyaf ohonom yn Wrecsam yn ailgylchu caniau aerosol a ffoil glân ar ymyl y palmant. Mae’n haws nac erioed!
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU