Cafodd aelodau o gyngor ysgol gyfle i gael cipolwg ar ychydig o hanes Wrecsam pan gawsant daith o Barlwr y Maer.
Ymwelodd disgyblion o Ysgol Rhostyllen Neuadd y Dref yn gynharach yr wythnos hon, a chawsant daith o Barlwr y Maer a phrif siambr y cyngor gan y Cynghorydd Andy Williams, Maer Wrecsam.
Mae digon o arteffactau o hanes Wrecsam ar ddangos yn y parlwr, a thrafododd y Maer hanes rhai o’r eitemau hynny gydag aelodau o gyngor ysgol Rhostyllen.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Cafodd y disgyblion hefyd y cyfle i siarad â’r Faeres, Mrs Beverley Williams a’r Cynghorydd Mark Pritchard, aelod ward Esclus.
Dywedodd y Cynghorydd Williams: “Rwyf bob amser yn falch o gael aelodau o gynghorau ysgol yn y parlwr, ac nid oedd y disgyblion o Ysgol Rhostyllen yn eithriad – roeddent yn glod i’w hysgol.
“Roedd diddordeb ganddynt yn hanes rhai o’r eitemau yn y Parlwr, a rhai o’r regalia dinesig, yn cynnwys y byrllysg.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, aelod ward Esclus: “Mae’n braf gweld y diddordeb mae’r disgyblion ysgol gynradd yn ei ddangos o ran hanes Wrecsam, ac mae’r cyfle iddynt ymweld â Neuadd y Dref a chael cipolwg o rôl y Maer yn un pwysig iawn.
“Hoffwn ddiolch i’r Maer a’r Faeres am roi taith i ddisgyblion Ysgol Rhostyllen, a hoffwn ddiolch i’r ysgol am drefnu’r ymweliad.”
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU