Ysgol Llan-y-pwll yw’r ysgol ddiweddaraf yn Wrecsam i gael pecyn casglu sbwriel yn rhad ac am ddim er mwyn mabwysiadu Ardal Di-sbwriel, ac mae Caru Cymru eisiau gwybod a allai eich ysgol chi fod nesaf?
Ymwelodd Emma Watson, Arweinydd Prosiect Caru Cymru Cyngor Wrecsam â’r ysgol yn ddiweddar ynghyd â Shane Hughes, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus. Cafwyd sgwrs diogelwch a bu sesiwn casglu sbwriel gyda’r disgyblion a’r athrawon sy’n cymryd rhan. Casglwyd dwy sach o sbwriel o’r ardal gyfagos ac mae cynlluniau wedi’u gwneud i ymestyn i’w parc lleol ar gyfer cynnal sesiynau casglu sbwriel rheolaidd.
Er mwyn cymryd rhan yn y prosiect Ardaloedd Di-Sbwriel, mae busnesau ac ysgolion yn cael eu gwahodd i ‘fabwysiadu’ ardal leol iddyn nhw er mwyn helpu i’w chadw’n lân drwy sesiynau casglu sbwriel rheolaidd.
Mae ysgolion yn cael pecynnau casglu sbwriel eu hunain yn rhad ac am ddim pan fyddan nhw’n cofrestru. Mae’r pecynnau’n cynnwys:
- pecyn o 5 neu 10 o declynnau casglu sbwriel
- festiau llachar
- cylchoedd i’r bagiau
- sachau coch neu wyrdd ar gyfer casglu sbwriel
Mae’n bosib i chi hefyd ofyn am gyfarpar mewn meintiau llai ar gyfer plant iau.
Dywedodd Emma: “Mae Wrecsam yn parhau i ddangos ei hymrwymiad i wella mannau lleol ac mae mabwysiadu Ardaloedd Di-sbwriel yn ffordd wych o gymryd rhan. Mae’n hyfryd gweld disgyblion mewn ysgolion lleol yn ymwneud â chasglu sbwriel a’r angerdd maen nhw’n ei ddangos. Mae cofrestru’n rhwydd a byddwch chi’n cael cymorth bob cam o’r ffordd.”
Dywedodd Mrs James, Pennaeth Dros Dro Ysgol Llan-y-pwll: “Rydym ni’n falch o fod yn rhan o’r prosiect Ardaloedd Di-sbwriel. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i ofalu am yr amgylchedd a helpu i gadw ein cymuned ni’n lân.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym ni’n ddiolchgar i’r busnesau a’r ysgolion i gyd sydd wedi croesawu’r prosiect Ardaloedd Di-sbwriel hyd yma. Mae casglu sbwriel yn gallu trawsnewid ardal wedi’i hesgeuluso yn gyflym ac mae’n helpu i greu Wrecsam mwy diogel a glân.”
I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch olwg ar ein gwefan Caru Cymru Wrecsam.
Os yw eich ysgol chi’n barod i gymryd rhan, cofrestrwch eich diddordeb drwy fynd i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD