Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol Llan-y-pwll yn mabwysiadu Ardal Di-sbwriel – allai eich ysgol chi fod nesaf?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgol Llan-y-pwll yn mabwysiadu Ardal Di-sbwriel – allai eich ysgol chi fod nesaf?
Busnes ac addysg

Ysgol Llan-y-pwll yn mabwysiadu Ardal Di-sbwriel – allai eich ysgol chi fod nesaf?

Diweddarwyd diwethaf: 2023/05/26 at 4:17 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Ysgol Llan-y-Pwll
RHANNU

Ysgol Llan-y-pwll yw’r ysgol ddiweddaraf yn Wrecsam i gael pecyn casglu sbwriel yn rhad ac am ddim er mwyn mabwysiadu Ardal Di-sbwriel, ac mae Caru Cymru eisiau gwybod a allai eich ysgol chi fod nesaf?

Ymwelodd Emma Watson, Arweinydd Prosiect Caru Cymru Cyngor Wrecsam â’r ysgol yn ddiweddar ynghyd â Shane Hughes, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus. Cafwyd sgwrs diogelwch a bu sesiwn casglu sbwriel gyda’r disgyblion a’r athrawon sy’n cymryd rhan. Casglwyd dwy sach o sbwriel o’r ardal gyfagos ac mae cynlluniau wedi’u gwneud i ymestyn i’w parc lleol ar gyfer cynnal sesiynau casglu sbwriel rheolaidd.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Er mwyn cymryd rhan yn y prosiect Ardaloedd Di-Sbwriel, mae busnesau ac ysgolion yn cael eu gwahodd i ‘fabwysiadu’ ardal leol iddyn nhw er mwyn helpu i’w chadw’n lân drwy sesiynau casglu sbwriel rheolaidd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae ysgolion yn cael pecynnau casglu sbwriel eu hunain yn rhad ac am ddim pan fyddan nhw’n cofrestru. Mae’r pecynnau’n cynnwys:

  • pecyn o 5 neu 10 o declynnau casglu sbwriel
  • festiau llachar
  • cylchoedd i’r bagiau
  • sachau coch neu wyrdd ar gyfer casglu sbwriel

Mae’n bosib i chi hefyd ofyn am gyfarpar mewn meintiau llai ar gyfer plant iau.

Dywedodd Emma: “Mae Wrecsam yn parhau i ddangos ei hymrwymiad i wella mannau lleol ac mae mabwysiadu Ardaloedd Di-sbwriel yn ffordd wych o gymryd rhan. Mae’n hyfryd gweld disgyblion mewn ysgolion lleol yn ymwneud â chasglu sbwriel a’r angerdd maen nhw’n ei ddangos. Mae cofrestru’n rhwydd a byddwch chi’n cael cymorth bob cam o’r ffordd.”

Dywedodd Mrs James, Pennaeth Dros Dro Ysgol Llan-y-pwll: “Rydym ni’n falch o fod yn rhan o’r prosiect Ardaloedd Di-sbwriel. Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i ofalu am yr amgylchedd a helpu i gadw ein cymuned ni’n lân.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym ni’n ddiolchgar i’r busnesau a’r ysgolion i gyd sydd wedi croesawu’r prosiect Ardaloedd Di-sbwriel hyd yma. Mae casglu sbwriel yn gallu trawsnewid ardal wedi’i hesgeuluso yn gyflym ac mae’n helpu i greu Wrecsam mwy diogel a glân.”

I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch olwg ar ein gwefan Caru Cymru Wrecsam.

Os yw eich ysgol chi’n barod i gymryd rhan, cofrestrwch eich diddordeb drwy fynd i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD

Rhannu
Erthygl flaenorol Hidden treasure Dewch â’ch trysor cudd i Gymhorthfa Darganfyddiadau Amgueddfa Wrecsam!
Erthygl nesaf Wrexham Library and Contact Centre Cyhoeddi dyddiad safle parhaol Galw Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg

Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith

Gorffennaf 4, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English