Bydd y cymeriad poblogaidd Magi Ann, o Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Dewin y Mudiad Meithrin a Mr Urdd yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn i siarad gyda rhieni sy’n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant 3 a 4 oed.
Yn cadw cwmni iddyn nhw fydd Pennaeth newydd Ysgol Llan-y-Pwll, Rhiannon James.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Yn cadw cwmni iddyn nhw fydd Pennaeth newydd Ysgol Llan-y-Pwll, Rhiannon James.
Mae Ysgol Llan-y-Pwll ym Morras yn agor ei drysau i ddosbarthiadau meithrin a derbyn ym mis Medi ac mae Rhiannon yn awyddus i annog rhieni i edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg.
Fe ddywedodd Rhiannon, “Mae cymaint o fanteision i fod yn ddwyieithog yng Nghymru heddiw a bydd yr ysgol yn agor i ddarparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn ardal Borras a’r cylch.
“Rydw i’n edrych ymlaen at siarad gyda rhieni – yn Gymraeg ac yn Saesneg, i’w hannog nhw i ystyried ymgeisio am le i’w plentyn yn yr ysgol at fis Medi.”
Os ydych chi eisiau clywed mwy am sut y gallai addysg cyfrwng Cymraeg fod o fudd i’ch plentyn chi, byddant yn Tŷ Pawb rhwng 12pm a 2pm.
Bydd Ysgol Llan-y-Pwll yn agor i ehangu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir a bydd yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd yn agor ar safle presennol Ysgol Fabanod Parc Borras, a fydd yn cael ei adnewyddu, ac mae wedi’i hariannu gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru dan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.
Nod y Rhaglen yw trawsnewid y profiad dysgu i ddisgyblion, gan sicrhau eu bod yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau sydd â’r technolegau a’r cyfleusterau sydd eu hangen i ddarparu cwricwlwm yr 21ain ganrif.
Pan fydd yn agor yn llawn, bydd 210 o ddisgyblion yn yr ysgol a bydd lle i 30 yn y dosbarth Meithrin hefyd.
Gallwch wneud cais am le yma rŵan ar gyfer plant sy’n 3 neu 4 oed cyn 1 Medi 2022 neu anfon e-bost at admissions@wrexham.gov.uk
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL