Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol Llan-y-Pwll – Cyfle i ddarganfod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn 12 – 2
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ysgol Llan-y-Pwll – Cyfle i ddarganfod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn 12 – 2
Busnes ac addysgY cyngor

Ysgol Llan-y-Pwll – Cyfle i ddarganfod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn 12 – 2

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 3, 2022 3:51 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Magi Ann
RHANNU

Bydd y cymeriad poblogaidd Magi Ann, o Menter Iaith Fflint a Wrecsam, Dewin y Mudiad Meithrin a Mr Urdd yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn i siarad gyda rhieni sy’n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant 3 a 4 oed.

Yn cadw cwmni iddyn nhw fydd Pennaeth newydd Ysgol Llan-y-Pwll, Rhiannon James.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Yn cadw cwmni iddyn nhw fydd Pennaeth newydd Ysgol Llan-y-Pwll, Rhiannon James.

Mae Ysgol Llan-y-Pwll ym Morras yn agor ei drysau i ddosbarthiadau meithrin a derbyn ym mis Medi ac mae Rhiannon yn awyddus i annog rhieni i edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg.

Fe ddywedodd Rhiannon, “Mae cymaint o fanteision i fod yn ddwyieithog yng Nghymru heddiw a bydd yr ysgol yn agor i ddarparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn ardal Borras a’r cylch.

“Rydw i’n edrych ymlaen at siarad gyda rhieni – yn Gymraeg ac yn Saesneg, i’w hannog nhw i ystyried ymgeisio am le i’w plentyn yn yr ysgol at fis Medi.”

Os ydych chi eisiau clywed mwy am sut y gallai addysg cyfrwng Cymraeg fod o fudd i’ch plentyn chi, byddant yn Tŷ Pawb rhwng 12pm a 2pm.

Bydd Ysgol Llan-y-Pwll yn agor i ehangu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir a bydd yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd yn agor ar safle presennol Ysgol Fabanod Parc Borras, a fydd yn cael ei adnewyddu, ac mae wedi’i hariannu gan Gyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru dan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.

Nod y Rhaglen yw trawsnewid y profiad dysgu i ddisgyblion, gan sicrhau eu bod yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau sydd â’r technolegau a’r cyfleusterau sydd eu hangen i ddarparu cwricwlwm yr 21ain ganrif.

Pan fydd yn agor yn llawn, bydd 210 o ddisgyblion yn yr ysgol a bydd lle i 30 yn y dosbarth Meithrin hefyd.

Gallwch wneud cais am le yma rŵan ar gyfer plant sy’n 3 neu 4 oed cyn 1 Medi 2022 neu anfon e-bost at admissions@wrexham.gov.uk

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Gateway Porth Wrecsam – Camau clir nesaf gyda phob partner allweddol sydd wedi ymrwymo i ddatblygu
Erthygl nesaf Mae cysylltiadau LEGO® hanesyddol Wrecsam yn cael eu dathlu mewn arddangosfa amgueddfa newydd Mae cysylltiadau LEGO® hanesyddol Wrecsam yn cael eu dathlu mewn arddangosfa amgueddfa newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English