Bu Estyn draw yn Ysgol Gynradd Penygelli yng Nghoedpoeth yn ystod mis Mai ac mae’r staff a llywodraethwyr yn eithriadol o falch o’r adroddiad arolygu cadarnhaol.
Mae’r adroddiad yn disgrifio nifer o gryfderau ar draws yr ysgol, ac yn benodol “ymddygiad rhagorol” disgyblion a’r bartneriaeth gref rhwng yr ysgol a rhieni, sy’n cael ei chyflawni drwy waith caled disgyblion, staff a llywodraethwyr.
“Mae athrawon yn cynllunio amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu ysgogol” a “cyfleoedd da i ddisgyblion ddatblygu eu chwilfrydedd am y byd o’u cwmpas.”
“Mae darpariaeth ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad disgyblion, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gryf.”
Mae’r adroddiad yn ychwanegu, “Mae’r rhieni’n canmol yr ymrwymiad a ddangosir gan arweinwyr a staff i’w cynorthwyo nhw a dysgu eu plant.”
Mae Ysgol Penygelli yn darparu “amgylchedd gofalgar, meddylgar, hapus a diogel ar gyfer disgyblion.
Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Sean Wade “Rydw i wrth fy modd bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd da y mae ein disgyblion yn ei wneud gyda’u sgiliau darllen, creadigol a chorfforol a’n bod yn darparu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i bawb. Tra bod gennym ni bethau i weithio arnynt ac i’w gwella, mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn rhoi llwybr clir i ni i fod yr ysgol gorau posibl i y gallwn ni fod.”
Ysgol Penygelli pupils have opportunities to have an impact on their local community
Mae’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, wedi mynegi ei orfoledd gyda’r nifer o gryfderau sy’n cael sylw yn yr adroddiad ac am “y cyfleoedd da i ddisgyblion fod yn ddinasyddion gweithredol a chael effaith yn eu cymuned leol.”
Dywedodd Anthony Wedlake, Cadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Penygelli a Chynghorydd Sir ar gyfer Coedpoeth, “Mae gennym lawer i’w ddathlu wrth symud ymlaen, mae adroddiad Estyn wedi tynnu sylw at y cynnydd da a wnaed gan ein disgyblion mewn sawl maes o ymgysylltu a chwricwlwm o safon uchel, ymddygiad rhagorol ein disgyblion a’r berthynas gref rhwng disgyblion a staff.”
“Mae gennym ychydig o lefydd dal ar gael yn ein dosbarth Meithrin gwych ac ar draws grwpiau blwyddyn eraill, felly dewch draw i gael golwg, i gyfarfod ein plant gwych ac ymuno â theulu Penygelli.” Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Disgyblion yn ennill gwobr am eu gwaith caled dros y Gymraeg