Mae Ysgol Clywedog yn Wrecsam wedi lansio rhaglen addysgu arloesol sy’n ceisio ‘cyflymu cynnydd myfyrwyr’ a gwella cyrhaeddiad drwy wella ansawdd addysgu’.
Mae’r fframwaith Addysgu a Dysgu CLEAR (Herio, Dysgu, Ymgysylltu, Asesu, Adlewyrchu) wedi ei chreu gan Ysgol Clywedog, mewn partneriaeth â thair ysgol arall o bob rhan o ranbarth Gogledd Cymru.
Ymunodd yr ysgol uwchradd ag Ysgol Eirias, Ysgol Uwchradd Penarlâg ac Ysgol Gynradd Llandrillo-yn-Rhos ar y rhaglen, sy’n bwriadu datblygu ymarferwyr ystafell ddosbarth rhagorol yng Nghymru.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Addaswyd y fframwaith o’r Rhaglen Addysgeg Effeithiol CLEAR, ac mae iddo bum egwyddor graidd:
• Darparu lefel uchel o her a pharatoi myfyrwyr ar gyfer dysgu’n annibynnol
• Gwella profiad dysgu myfyrwyr
• Ymgysylltu’n ymarferol gyda myfyrwyr drwy ystod o weithgareddau dysgu
• Gosod canlyniadau dysgu mesuradwy gyda llwyddiant clir a darparu adborth a chywiriadau systematig
• Adolygu’r dysgu’n rheolaidd drwy ofyn i fyfyrwyr egluro beth maen nhw wedi ei ddysgu a’i ail-ddysgu yn wahanol pan fo angen
I wneud yn siŵr fod yr egwyddorion craidd yn cael eu dilyn ym mhob gwers, mae’r ysgol wedi mabwysiadu’r moto, “addysgu o ansawdd uchel ym mhob gwers, bob dydd.” Rhaid i athrawon gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant i adeiladu ar eu datblygiad proffesiynol a gwella safonau ymhellach.
“Yn llawn cyffro i weld yr effaith”
Mae Andrea Francis, Pennaeth Cynorthwyol – Addysgu a Dysgu yn Ysgol Clywedog wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno’r fframwaith newydd yn yr ysgol. Dywedodd: “Mae’r broses o ddatblygu’r rhaglen newydd wedi bod yn werthfawr iawn. Mae gwaith mewn partneriaeth gydag ysgolion eraill wedi ein caniatáu ni i rannu syniadau, profiad, ac arferion gorau.
“Mae’r athrawon yma yn Ysgol Clywedog yn eithriadol o bositif ac wedi cofleidio’r model CLEAR ac egwyddorion hyfforddi’r rhaglen CLEAR. Rydw i’n llawn cyffro i weld effaith a bendithion y fframwaith newydd ar gyfer athrawon a myfyrwyr yma yn Ysgol Clywedog wrth i ni symud ymlaen.
“Hoffwn ddweud diolch enfawr i bawb sy’n gysylltiedig am eu cefnogaeth ac, yn arbennig, Hayley Blackwell, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Eirias ym Mae Colwyn, sydd wedi bod yn rym mawr y tu ôl i ddatblygiad y rhaglen. Mae hi wedi gweithio’n arbennig o galed ac hefyd wedi cyflwyno cais am ardystiad o’r rhaglen gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yng Nghymru (NaEL), a fyddai’n ffantastig.”
“Menter gyffrous ar gyfer yr ysgol”
Dywedodd Matt Vickery, Pennaeth Ysgol Clywedog: “Un o’r effeithiau mwyaf ar ganlyniadau myfyrwyr yw addysgu a dysgu ardderchog. Mae’r fframwaith a’r rhaglen hyfforddiant newydd hon yn nodi menter gyffrous ar gyfer yr ysgol, drwy gefnogi ein hathrawon drwy hyfforddiant o ansawdd a gwaith ar y cyd.
“Mae ein staff yn gwneud pethau anhygoel bob dydd i gefnogi myfyrwyr, eu teuluoedd a’r gymuned.” Rydw i wrth fy modd y bydd y rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd newydd am ddatblygiad proffesiynol o ansawdd uchel, cydweithio a rhannu ymarfer rhagorol fel fod ein myfywyr yn cael eu hysbrydoli i gyflawni eu potensial.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG